Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



VAUGHAN, EDWARD (bu f. 1522), esgob Tyddewi. Brodor o Ddeheubarth, efallai, oedd Vaughan, a addysgwyd yng Nghaergrawnt, lle y graddiodd yn LL.D. Penodwyd ef i eglwys S. Mathew, Friday Street, Llundain, 21 Mehefin 1487, a bu'n ddiweddarach yn ficer Islington, yn brebendari Reculverland, 15 Ebrill 1493, a Harleston, 16 Tachwedd 1499, yn eglwys S. Paul, yn ogystal â bod yn drysorydd yr eglwys gadeiriol honno, ac felly'n brebendari Bromesbury. Wedi ei benodi'n archddiacon Lewes yn 1509, cysegrwyd ef hefyd yn esgob Tyddewi, 22 Gorffennaf 1509, ar sail darpariaeth a wnaed gan y pab, 13 Ionawr 1509. Tra'n esgob ymgymerth Vaughan â chynlluniau pensaernïol gwych yn ei eglwys gadeiriol ac ym mhlasau'r esgob yn Llantyfai a Llawhaden. Bu f. fis Tachwedd 1522 a chladdwyd ef yn Nhyddewi yng nghapel hardd y Drindod Santaidd a godasid ganddo.

Llyfryddiaeth:

  • D.N.B.;
  • Arch. Camb., II, xiii, 67; V, xv, 223-6;
  • Browne Willis, Survey of S. Davids, 15-22, 117-8;
  • Epp. Reg. S. Davids, ii, 783 ff., iii, 126-9;
  • Jones a Freeman, S. David's

Awdur:

Syr Glanmor Williams, M.A., Abertawe