Rhoes beth cynhorthwy i luoedd y brenin yn ystod y Rhyfel Cartrefol (gw. J. R. Phillips, Civil War, ii, 154-7), ond i bob pwrpas ymddeolodd o fywyd cyhoeddus tan yr Adferiad. Dywedir iddo helpu'r Seneddwyr i gipio castell Aberystwyth yn 1646 (Cambrian Register, i, 166). Ni ellir profi hynny. Rhestrwyd ef ymysg y ‘delinquents’ ar 29 Mehefin 1648. Ei dystiolaeth ei hun yn 1660 oedd iddo gael ei ddirwyo a bod ei gartref wedi ei lwyr ysbeilio i'w ddirfawr golled (S.P. Dom., Charles II, 29/8, 126; gw. hefyd Cambrian Quarterly Magazine, i, 61). Yn 1660, apwyntiwyd ef yn stiward Mefenydd a phedair arglwyddiaeth arall yn perthyn i'r Goron yn sir Aberteifi. Penododd yr iarll Carbery ef yn un o'i ddirprwy-raglawiaid dros y sir. Daeth rhai materion Cymreig i'w sylw yn y Senedd. Pan gododd dadl ynglŷn ag etholiad yn nhref Caernarfon, rhoddwyd ef ar y pwyllgor i archwilio'r broblem am ei fod yn deall, gellir tybio, ‘the ancient true Celtique or Brittish tongue’ (Jnl. of Sir Simon d'Ewes, gol. Notestein, 455). Yn 1662, yr oedd yn un o dri a enwyd i drafod y priodoldeb o gyfieithu'r Llyfr Gweddi newydd yn Gymraeg (Commons Jnl., viii, 409). Ymddiddorai yn hanes a hynafiaethau Cymru. Fel un o ysgutorion ewyllys Selden, yr oedd ganddo allwedd i lyfrgell amhrisiadwy'r sgolor hwnnw. Cadwodd ohoni (gw. dan Field, Theophilus) lawysgrif ‘Llyfr Landaf’ a rhoes ei benthyg i Robert Vaughan, Hengwrt, i'w chopïo (gw. ysgrif E. D. Jones yn Cylch. Ll.G.C., iv, 123). Yn un o'i opiniynau mwyaf nodedig, dywedodd nad oedd hawl gan y llysoedd yn Westminster i anfon ‘final process’ i Gymru (Reports, 395). Yr oedd ei awdurdod yn ddigon i ddiogelu'r llysoedd Cymreig am gyfnod. Sylfaenodd ei ddadl ar safle Cymru yn y Canol Oesoedd, ac, yn ei farn ef, ni newidiwyd y sefyllfa yn hyn o beth gan ddeddfau uno Harri VIII. Mor ddiweddar â 1745, defnyddiwyd ei ddadleuon yn effeithiol yn achos Lampley v. Thomas, pan benderfynwyd na ellid gyrru gwŷs ‘latitat’ i Gymru (English Reports, 1 Wilson, 193). Yn R. v. Athos awgrymodd y barnwr Fortescue ei fod o bosibl yn rhy bleidiol i'w wlad enedigol (‘but he being a native of Wales, might be prejudiced in favour of his country,’ English Reports, 8 Modern, 145).
Tyfodd y stad yn Nhrawsgoed yn sylweddol o dan ei ofal. Ar ddechrau ei yrfa prynodd diroedd gwerth £4,300 yn Aberteifi, a thiroedd yn Nhrefaldwyn ar ddiwedd ei oes. Trosglwyddwyd y stad yn gyfan gwbl i'w unig fab, Edward. Goroeswyd ef gan ei wraig, Jane (Stedman). Yr oedd iddynt hefyd ddwy ferch, Anne a Lucy. Y mae dau ddarlun olew o'r prif farnwr yng Nghymru, y naill yng Ngwysaney a'r llall ar fenthyg yn Ll.G.C.
Yr Athro John Gwynn Williams, M.A., Caerlleon Fawr / Bangor