VAUGHAN, JOHN (1663-1722), Cwrt Derllys , Caerfyrddin , diwygiwr cymdeithasol a chrefyddol;
mab John Vaughan, Derllys (1624-1684), bargyfreithiwr, a Rachel, merch Syr Henry Vaughan, Derwydd, sir Gaerfyrddin; g. yn y flwyddyn 1663. Ei dadcu ar ochr ei dad oedd brawd John Vaughan, y Gelli Aur, iarll 1af Carbery (gw. yr ysgrif ar y teulu). Addysgwyd ef, yn ôl pob tebyg, yn ysgol ramadeg Caerfyrddin. Ar 6 Hydref 1692 priododd Elizabeth, ferch Thomas Thomas, Meidrym, a'i wraig Elizabeth (gynt Protheroe), cyfnither Lucy Walter [q.v.], mam dug Mynwy.
Yn ystod 20 mlynedd olaf ei fywyd John Vaughan oedd arweinydd bywyd crefyddol ac addysgol sir Gaerfyrddin. Gyda chefnogaeth y S.P.C.K., gwnaeth ef a'i gyfaill Syr John Philipps [q.v.], Castell Pictwn, sir Benfro, y ddwy sir hon yn llwyddiannus dros ben yn y fath bethau. Talodd John Vaughan sylw arbennig i sefydlu ysgolion elusennol a llyfrgelloedd ac i ddosbarthu llenyddiaeth grefyddol Gymraeg. Ef oedd arloesydd llyfrgelloedd rhyddion a llyfrgelloedd i blant; cefnogodd roddion arian o'r sir i dalu am addysg plant tlodion, a chymerai ddiddordeb neilltuol mewn tlotai ac mewn gwella cyflwr carcharau. Pwysleisiodd hefyd bwysigrwydd gweddi deuluol ym mhob cartref. Ef oedd maer tref Caerfyrddin am y flwyddyn 1710-11, a bu'n aelod o gyngor y dref o 1707 hyd 1722. Ei ferch, Bridget Bevan [q.v.], oedd prif noddwr yr ysgolion cylchynol Cymraeg. Bu f. ei wraig yn 1721 a chladdwyd hi yn eglwys Merthyr; bu yntau f. 16 Tachwedd 1722, a'i gladdu yn eglwys Llanllwch, sir Gaerfyrddin.
Dilynodd ei frawd hynaf, RICHARD VAUGHAN (1653-1724), ei dad yn y gyfraith a bu'n feinciwr a thrysorydd Gray's Inn, aelod seneddol dros dref Caerfyrddin (1685-1724), cofiadur (1683-6, 1688-1722), a phrif ustus siroedd Caerfyrddin, Aberteifi, a Phenfro. Priododd Arabella Philipps, Castell Pictwn, ac yr oedd felly yn frawd-yng-nghyfraith i Griffith Jones, Llanddowror.
Llyfryddiaeth:
- S.P.C.K. Abstracts (Llundain);
- cofnodion cyngor tref Caerfyrddin (Caerfyrddin a Ll.G.C.);
- ‘The Charity of John Vaughan’ (N.L.W. MS. 26);
- Mary Clement, ‘Hanes y S.P.C.K. yn Sir Gaerfyrddin,’ 1700-50 (traethawd M.A., 1940);
- Robert Harrison, Some Notices on the Stepney Family, 1870;
- William Spurrell, Carmarthen (ail arg., 1879);
- D. Lleufer Thomas, ‘The Vaughans of Golden Grove,’ yn D.N.B.;
- Thomas Shankland, ‘Sir John Philipps,’ Trans. Cymm., 1904-5;
- Francis Jones, ‘The Squires of Hawksbrook,’ Trans. Cymm., 1937;
- W. Moses Williams, ‘The Friends of Griffith Jones,’ Cymm., 1939;
- Mary Clement, ‘John Vaughan, Derllys, a'i Waith,’ Trans. Cymm., 1942;
- Lord George Scott, Lucy Walter (London, 1947).
Awdur:
Dr Mary Clement, Ph.D., Llanelli / Aberystwyth