VAUGHAN, JOHN (‘Siôn Grythor ’; bu f. 1824), arlunydd a ffidler.
Dywed W. Davies Leathart yr arferai ganu'r ffidil yng nghyfarfodydd Cymdeithas y Gwyneddigion, Llundain, tua'r flwyddyn 1776. Paentiodd ddarlun o Owen Jones (‘Owain Myvyr’). Bu f. 1824 mewn oedran mawr.
Brawd iddo oedd WILLIAM VAUGHAN, brodor o Gonwy, un o aelodau cynharaf y Gwyneddigion. Dywed Leathart yr edrychid arno fel ‘a dandy of the first order, a distinction he was not a little proud of,’ ac ychwanega ei fod yn berthynas i'r arglwyddes Mostyn, mam y Syr Thomas Mostyn a fu f. yn 1831. Margaret, merch ac aeres Hugh Wynn, D.D., Bodysgallen a Berthddu, oedd yr arglwyddes Mostyn hon; yr oedd hi yn aeres Bodysgallen (gerllaw Conwy), Plasmawr (Conwy), Bodidris (sir Ddinbych), a Chorsygedol (sir Feirionnydd). Bu William Vaughan f. yn Hammersmith c. 1827, yntau hefyd mewn oedran mawr.
Llyfryddiaeth:
- Leathart, Origin and Progress of the Gwyneddigion Soc. (London, 1831);
- M. O. Jones, Byw. Cerdd. Cymr.;
- Cymm., 1951, 96, 117.
Awdur:
Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth