Ymddengys fod aelodau teulu'r Fychaniaid yn wastad yn cweryla â theulu'r Herbertiaid [q.v.] ac mai hyn oedd y rheswm paham na chafwyd o'u plith aelodau seneddol dros sir Drefaldwyn a dim ond un siryf — JOHN ab OWEN VAUGHAN, yn 1583. Priododd ef â Dorothy, merch Howell Vaughan, Glan-llyn, a chwaer John Vaughan, siryf Meirionnydd yn 1594. Priododd OWEN, mab John ab Owen Vaughan, Catherine, ferch Morrice ap Robert, aer Llangedwyn, a chafodd ohoni ddau fab — JOHN (a aeth i'r Inner Temple yn 1606) a SYR ROBERT, a briododd Catherine, merch William, yr arglwydd Powys 1af.
Daeth llinell wrywol y teulu i'w therfyn gyda marw Syr Robert, ac aethpwyd â Llwydiarth a Llangedwyn gan ei ferch ef, Eleanor, i feddiant John Purcell, Nantcriba, a chan ei ferch yntau i'w gŵr hithau — EDWARD VAUGHAN, Glan-llyn a Llwydiarth. Bu ef yn siryf sir Drefaldwyn yn 1688, yn aelod seneddol dros fwrdeisdref Trefaldwyn, ac wedyn, am 58 mlynedd, dros y sir ei hunan; gor-ŵyr siryf sir Feirionnydd yn 1594 ydoedd ef.
Aethpwyd â stadau unedig Llwydiarth, Llangedwyn, a Glan-llyn gan Anne, merch ac aeres Edward Vaughan, i'w gŵr Syr Watkin-Williams Wynn — gw. Wynn (Teulu), Wynnstay — 3ydd barwnig Wynnstay; yr oedd ei fam ef, Jane Thelwall, aeres Plas-y-ward, yn bumed o ran disgyniad o'r John Owen Vaughan a enwyd uchod.
Yn Mont. Coll., xiv, ceir erthygl (gyda darluniau) ar y 30 arfbais a arferai fod ar sêt teulu Vaughan yn eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa, sir Drefaldwyn, ond a drosglwyddwyd i gapel plas Wynnstay. Yn yr un gyfrol ceir darlun o Lwydiarth (a dynnwyd i lawr bellach) wedi ei gymryd o ‘Progress’ (1684) dug Beaufort.
John Davies Knatchbull Lloyd, M.A., F.S.A., O.B.E., Trefaldwyn