VAUGHAN, ARTHUR OWEN (‘Owen Rhoscomyl ‘; 1863?-1919), anturwr ac awdur;
brodor o Ddyffryn Clwyd. Dihangodd i'r môr yn fachgen (o Borthmadog), a chrwydrodd y byd. Yn y rhyfel â'r Boëriaid, yr oedd ganddo lu o ŵyr meirch, ‘Rimington's Guides,’ ac enillodd gryn glod; ac yn rhyfel 1914-9 enillodd radd cyrnol, a'r D.S.O. Sgrifennodd ddwy nofel, The Jewel of Ynys Galon, 1895, a The White Rose of Arno, 1897, a chyda'r arglwydd Howard de Walden ddrama, The Children of Don, 1912. Cyhoeddodd hefyd yn 1905 Flamebearers of Welsh History, ac yn 1913 lyfr mwy uchelgeisiol, The Matter of Wales, ond ni chafodd y naill na'r llall dderbyniad da o gwbl gan arbenigwyr yn hanes cynnar Cymru. Bu f. 15 Hydref 1919 mewn ysbyty preifat yn Llundain, yn 56 oed yn ôl Western Mail, 20 Hydref 1919.
Llyfryddiaeth:
- The Times, 17 Hydref 1919;
- West. Mail, 16 a 20 Hydref 1919;
- Rhyl Journal, 25 Hydref 1919;
- Blackwell;
- N.L.W. MSS. 2504-5.
Awdur:
Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth