VAUGHAN (TEULU), Pant Glas, Ysbyty Ifan

Diflannodd y plas ers tro mawr, ond erys yr enw ' capel Pant Glas ' ar ran o eglwys y plwyf, o'r un teulu ag a geir ym Mhlas Iolyn, y Foelas, y Cernioge, a'r Rhiwlas; y mae'r ach yn J. E. Griffith, Pedigrees, 44, ond yn anghyflawn ac anghywir. Ŵyr oedd THOMAS VAUGHAN (I) i Rys ap Meredydd o Ysbyty Ifan, a mab (iau) i Robert ap Rhys yn ei ewyllys (1534) gedy Robert ap Rhys ei diroedd yn Nôl-gynwal i ' Thomas Vichan ap Robert ap Rice.' Bu'r Thomas Vaughan hwn yn briod ddwywaith, a thardd llinach olynol y Pant Glas o'r ail briodas, a Catherine Conway o Fryn Euryn (profwyd ei hewyllys yn 1588); gan i Wiliam Llŷn. (a fu farw 1580) ganu marwnad iddo, y mae'n rhaid ei fod yntau wedi marw cyn 1580. Ei aer oedd THOMAS VAUGHAN (II), a enwir mewn cywyddau gan ei gâr Thomas Prys o Blas Iolyn; dywedir iddo farw yn 1654, ond gellir amau hynny'n ddirfawr, oblegid y mae ewyllys a brofwyd yn 1640 yn awgrymu ei fod eisoes wedi marw. Dilynwyd ef gan ei fab hynaf, JOHN VAUGHAN, a oedd yn fyw yn 1640; dywedir drachefn iddo yntau farw yn 1654, ond yma eto gellir amau, oblegid cyfeirir ato mewn dogfen tua 1636 fel 'hen ŵr' (chwanegir fod ei stad yn werth £400 y flwyddyn), ac yn ôl yr ach yn ' Llyfr Silin ' fe'i goroeswyd gan ei fab Henry; bu ei weddw Joan (Townshend, o Sir Amwythig) farw ddiwedd 1663 neu ddechrau 1664, yn y Pant Glas, yn 74 oed. Ar ôl John Vaughan daeth HENRY VAUGHAN (I), y dywedir, ar dystiolaeth unfryd bron, iddo gael ei ladd yn y Rhyfel Cartrefol, wrth ymosod ar gastell Hopton yn Sir Amwythig, fis Chwefror 1644, eithr hawlia awdur The Garrisons of Shropshire, 1642-8, mai i deulu o Fychaniaid hollol wahanol, yn Sir Amwythig, y perthynai'r ' Captain Vaughan ' a laddwyd yn Hopton. Ond sut bynnag, yr oedd Henry Vaughan yn 'deceased' cyn Chwefror 1654/5 pan ymaelododd ei fab hynaf yn Gray's Inn; bu ei weddw, Margaret, ferch Bonham Norton o Church Stretton (y mae rhai o'i theulu yn y D.N.B.), farw 8 Rhagfyr 1669, yn 91 oed, yn y Glyn yn Llandrillo-yn-Rhos. Cawsant bedwar o blant - nid pump fel y dywed J. E. Griffith. (1) THOMAS VAUGHAN (III); ychydig a wyddys amdano. Ymaelododd yn Gray's Inn yn Chwefror 1654/5; priododd â Lucy, ferch y prif farnwr Syr John Vaughan, o'r Trawsgoed yng Ngheredigion, ac y mae sawl cyfeiriad ato ym mhapurau Gwydir; ond ni ellir dyddio ei eni na'i farw - dylid efallai ddweud nad yw cofrestrau plwyf Ysbyty Ifan ar gael cyn 1731. Ni ddigwydd ei enw (nac enwau ei feibion) mewn ewyllys deuluol a brofwyd yn 1700 ac a arwyddwyd fis Gorffennaf 1699, ond y mae sicrwydd ei fod yn fyw yn 1681. Cafodd ddau fab: JOHN (a oedd yn fyw yn 1692) a THOMAS (IV); gellid meddwl i Thomas fyw'n ddigon hir i etifeddu'r stad, ond yr oedd yntau wedi marw erbyn 1697 (neu 1698), oblegid y pencenedl yn y flwyddyn honno oedd (2) HENRY VAUGHAN (II). Yr oedd rhyw ' Henry Vaughan ' yn warden eglwys Llandrillo-yn-Rhos yn 1677, a chan i weddw Henry Vaughan (I) farw yn y Glyn yn y plwyf hwnnw, rhesymol yw casglu mai yn y Glyn y preswyliai yntau hyd tua 1697 - bu'n siryf yn 1698, a gelwir ef y pryd hynny'n ' Henry Vaughan of Pant Glas,' felly hefyd yn yr ewyllys (1699) y cyfeiriwyd ati, ac yn Parochialia Edward Lhuyd. Ni wyddys pa bryd y bu farw. (3) KATHERINE VAUGHAN, a fu farw'n ddibriod yn y Pant Glas yn fuan iawn ar ôl 1700, ac a adawodd arian at godi elusendy i ferched yn Ysbyty Ifan. (4) ANNE VAUGHAN (gall mai hi oedd yr hynaf o'r merched), a briododd i deulu Williams y Marl; gan i'w brodyr a'i chwaer farw'n ddietifedd, unwyd stad y Pant Glas a stad y Marl, a than y pen hwnnw yr adroddir gweddill ei hanes.

Y mae un aelod arall o'r teulu y dylid ei enwi, sef RICHARD VAUGHAN (1621 - 1700) - ar gam y dywed J. E. Griffith ei fod yn fab i Henry Vaughan (I), ond ni ellir dweud i sicrwydd pwy ydoedd; clywir amdano gyntaf mewn ewyllys a brofwyd yn 1640. Bu'n ymladd yn y Rhyfel Cartrefol, a dallwyd ef. Fis Gorffennaf 1663 etholwyd ef yn un o'r ' Poor Knights of Windsor,' ac yng nghastell Windsor y bu farw, 5 Mehefin 1700, 'yn ei 80fed fl.', ac y claddwyd ef. Gadawodd arian i godi elusendy i ddynion yn Ysbyty Ifan.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.