VAUGHAN, RICHARD (1550?-1607), esgob;
g. c.1550, yn ail fab Thomas ap Robert Fychan, Nyffryn, Llŷn, sir Gaernarfon. Cafodd ei addysg yng Ngholeg S. Ioan, Caergrawnt (B.A. 1574, M.A. 1577, D.D. 1589). Yn fuan wedi 1577 dewiswyd ef yn gaplan i John Aylmer, esgob Llundain, gŵr y dywedir ei fod yn berthynas iddo (Baker, Hist. of St. John's College, Cambridge, 235. Cafodd amryw swyddi eglwysig — yn eu mysg ganoniaeth yn S. Paul's (1583) a'i ddewis yn archddiacon Middlesex (1588). Etholwyd ef yn esgob Bangor 22 Tachwedd 1595, symudwyd ef i Gaer 23 Ebrill 1597, ac oddi yno i Lundain yn 1604. Dywedir iddo gynorthwyo William Morgan [q.v.] gyda chyfieithu'r Beibl yn Gymraeg, ac iddo fod yn noddwr i eglwys gadeiriol Bangor. Pan oedd yn esgob Caer safodd yn gryf yn erbyn ‘gwrthodwyr’ Pabyddol a phan oedd yn esgob Llundain rhoes daw ar rai Piwritaniaid eithafol. Bu f. 30 Mawrth 1607.
Llyfryddiaeth:
- D.N.B.;
- J. E. Griffith, P.A.C.F., 243;
- Browne Willis, Survey of Bangor, 24, 109, 323.
Awdur:
Yr Athro Glyn Roberts, M.A., (1904-1962), Bangor