Yn unol â thraddodiadau'r teulu cymerodd Rowland Vaughan ran flaenllaw ym mywyd gwladol ei sir ac fel ei dad, a lanwodd y swydd yn 1613/4 a 1620/1, penodwyd yntau'n siryf dros sir Feirionnydd yn 1642/3. Yr oedd yn Frenhinwr selog a dywedir iddo gymryd rhan fel capten ym mrwydr Naseby. Yn sicr cymerodd ran yn y Rhyfel Cartrefol fel y dengys englynion a ganodd William Phylip iddo (Pen. MS. 115). Llosgwyd Caer Gai i'r llawr gan nifer o filwyr Cromwell ar eu ffordd o sir Drefaldwyn yn 1645, rhoddwyd ei etifeddiaeth i nai iddo, a charcharwyd Vaughan ganddynt yng Nghaerlleon yn 1650. Wedi diwedd y Rhyfel Cartrefol ac ar ôl blynyddoedd o gyfreithio adenillodd ei dir ac ailadeiladwyd Caer Gai.
Ceir mynych gyfeiriadau mewn amryw o'i gerddi ac englynion yn dangos yn eglur ei ddaliadau gwleidyddol a'r hyn a ddioddefodd o'u herwydd. Canodd nifer o gerddi'n ymwneuthur â phynciau'r dydd a nifer mawr o gerddi a charolau a dyrïau o natur dduwiol, a chyfieithodd amryw o emynau adnabyddus i'r Gymraeg o'r Saesneg ac o'r Lladin. Priodolir y cyfieithiadau Cymraeg adnabyddus, ‘Tyrd, Ysbryd Glân, i'n clonnau ni,’ a ‘Tyrd, Ysbryd Glân, tragwyddol Dduw’ iddo; gw. J. Thickens, Emynau a'u Hawduriaid, a Llyfr Gweddi Gyffredin, 1664. Canodd hefyd nifer o gywyddau ac englynion marwnad i amryw o uchelwyr Meirion. Cyhoeddwyd peth o'i waith yn Carolau a Dyriau Duwiol, 1729, a Blodeu-Gerdd Cymru, 1759, a chasgliadau eraill, a cheir llawer o'i gerddi mewn llawysgrifau cyfoes gan gynnwys amryw enghreifftiau yn ei lawysgrifen ei hun; gw. darlun o'i lawysgrifen rhwng 142 a 143 yn Cylch. Ll.G.C., i.
Feallai er hynny mai fel cyfieithydd yr adnabyddir ef orau. Gweithiau o natur dduwiol yw ei gyfieithiadau a'r mwyafrif ohonynt yn pleidio achos yr Eglwys Sefydledig. Y cyntaf a'r pwysicaf a gyhoeddwyd oedd Yr Ymarfer o Dduwioldeb, o waith Lewis Bayly, yn 1630 — ailargraffwyd ef nifer o weithiau yn ystod y can mlynedd canlynol. Dilynwyd hwn yn 1658 gan Yr Arfer o Weddi yr Arglwydd (John Despagne), Pregeth yn erbyn Schism (Jasper Mayne), Prifannau Sanctaidd, ynghyd â Ymddiffyniad Rhag Pla o Schism (William Brough), a Prifannau Crefydd Gristnogawl, ynghyd â Y Llwybraidd-Fodd Byrr (James Ussher), ac oddeutu'r flwyddyn 1660 gan Evchologia (John Prideaux). Dengys ei gyfieithiadau ddiwydrwydd a dyfalbarhad Rowland Vaughan yn ogystal â'i feistrolaeth ar iaith gyfoethog ac ystwyth. Try'r cyfieithydd yn awdur o dro i dro megis yn ei ragymadroddion a'i lythyrau cyflwyno, a cheir ynddynt nifer o gyfeiriadau at ddigwyddiadau hanesyddol cyfoes. Cyhoeddwyd nifer o'i garolau ac englynion hefyd yn y cyfrolau hyn.
Cyfieithodd Rowland Vaughan un llyfr pwysig arall, er na chyhoeddwyd mo'i gyfieithiad, sef Eikon Basilike neu The King's Book (gw. Cylch. Ll.G.C., i, 141-4). Cafwyd hyd i'r cyfieithiad hwn, sydd yn llawysgrifen Vaughan ei hun, ymysg llawysgrifau Brogyntyn a anfonwyd i'r Llyfrgell Genedlaethol gan yr arglwydd Harlech, un o ddisgynyddion y cyrnol John Owen, y cyflwynodd Vaughan y gwaith iddo. Rhan yn unig o'r cyfieithiad sydd ar gael ynghyd â'r llythyr cyflwyno; ar hyn gw. Cylch. Ll.G.C., i, 141-4.
Bu f. Rowland Vaughan 18 Medi 1667. Ei fab hynaf, John, a etifeddodd y stad, a gorŵyres iddo ef, Mary Elizabeth (g. 1709), priod y Parchedig Henry Mainwaring, rheithor Etwall, a werthodd Gaer Gai a Thref Brysg i Syr Watkin Williams Wynn tua 1740.
Miss Megan Ellis, (1906-2001), Aberystwyth
Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth