Ymddengys mai'r Vaughan cyntaf i briodi ag aelod o deulu Stedman , Strata Florida (a Cilcennin ), ydoedd EDWARD VAUGHAN (bu f. 1635 ), a briododd Lettice , merch John Stedman (manylion am ewyllys Edward Vaughan yn Crosswood Calendar , 59-60). Edward Vaughan a Lettice ( Stedman ) oedd rhieni un o aelodau enwocaf y teulu, sef y barnwr Syr John Vaughan ( 1603 - 1674 ) [q.v.] .
Mab hynaf y barnwr a Jane ( Stedman ) oedd EDWARD VAUGHAN (bu f. 1683 ), a olygodd Reports ei dad. Bu'n aelod seneddol dros Aberteifi ( 26 Chwefror 1678/9 hyd 28 Mawrth 1681 ) ac am gyfnod byr yn un o Arglwyddi y Morlys . Priododd ef Letitia , merch Syr William Hooker . Gwnaeth y brenin ( William III ) eu mab hwy, JOHN VAUGHAN ( 1670? - 1721 ), yn farwn Fethard , swydd Tipperary , ac yn is-iarll ‘Viscount’ Lisburne , swydd Antrim (ym mhendefigaeth Iwerddon ) yn 1695 . Priododd (1), 18 Awst 1692 , â Malet , trydedd merch ail iarll Rochester , a (2) Elizabeth (bu f. Awst 1716 ). Trwy Malet yr oedd yn dad i JOHN VAUGHAN , ail is-iarll Lisburne , a thrwy Elizabeth yn dad WILMOT VAUGHAN , 3ydd is-iarll Lisburne ; bu'r ail is-iarll a'r 3ydd yn arglwyddi-raglaw sir Aberteifi . Priododd Wilmot Vaughan Elizabeth , merch Thomas Watson , Berwick-upon-Tweed (gw. mynegai y Crosswood Calendar , o dan enw'r lle hwn). Mab hynaf y briodas hon oedd Wilmot Vaughan , a grewyd yn iarll Lisburne yn 1776 . Yr ail fab oedd John Vaughan ( 1748? - 1795 ) — Lieutenant-General Syr John Vaughan , K.B. , wedi hynny. Disgrifir gyrfa'r milwr hwn yn y D.N.B. ; bu'n gwasnaethu yn yr Almaen , yn America (fel lieutenant-colonel , 1760-7 , ac fel major-general , 1776-9 ), ac yn y West Indies , 1780-2 . Bu'n llywiawdr Berwick , yn swyddog llyngesol â gofal y Leeward Islands arno, a bu f. yn Martinique .
Dilynwyd Wilmot Vaughan , yr iarll Lisburne cyntaf , a fu f. yn 1813 , gan ei fab hynaf, yntau'n WILMOT VAUGHAN . Bu'r ail iarll hwn farw yn 1820 , yn ddibriod, a dilynwyd ef gan ei hanner-brawd, John Vaughan ( 1769 - 1831 ), 3ydd iarll Lisburne , cyrnol yn y fyddin , ac aelod seneddol dros sir Aberteifi , 1796-1818 .
Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth.