Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WAITHMAN, ROBERT (1764-1833), arglwydd faer Llundain; g. yn Wrecsam, 1764, mab John Waithman (o Warton, Lancs.), saer coed yn gweithio yn ffwrnais Bersham, Wrecsam, a'i wraig Mary (Roberts). Bu'n gwasnaethu mewn siop gwerthwr nwyddau lliain yn Llundain; tua 1786 agorodd ei siop ei hun, ar y cyntaf yn Fleet Market ac yna yr 103 a 104 Fleet Street. Priododd, 14 Gorffennaf 1787, â'i gyfnither, Mary Davis. Llwyddodd i ennill cyfoeth mawr. O dan ddylanwad y chwyldro yn Ffrainc daeth i weithio'n gryf dros ddiwygiad radicalaidd. Daeth yn aelod seneddol dros ddinas Llundain yn 1818 ac enillodd y sedd eilwaith yn 1826, gan ei chadw hyd ei farw. Bu'n siryf Llundain a Middlesex yn 1820 ac yn arglwydd faer yn 1823. Bu f. 6 Chwefror 1833 yn Woburn Place, a chladdwyd ef yn eglwys S. Brides, Fleet Street.

Llyfryddiaeth:

  • D.N.B.;
  • Em. W.;
  • A. N. Palmer, Hist. of the Parish Church of Wrexham, 1886;
  • The Satirist, or Monthly Meteor, 1809 a 1810 (yn cynnwys llu o ymosodiadau arno).

Awdur:

Yr Athro Emeritus David Williams, D.Litt., (1900-78), Aberystwyth