Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WALLENSIS , h.y. ‘Cymro’; bydd yn hwylus ddelio gyda'i gilydd â phedwar gŵr o'r cyfenw hwn sydd ill pedwar yn y D.N.B.

(1) Johannes Wallensis (fl. 1215), dysgawdr ar y gyfraith ganon ym mhrifysgol Bologna; yr unig awgrym o'i Gymreigrwydd yw ei gyfenw.


(2) Johannes Wallensis (bu f. 1285?); gw. yr ysgrif arno dan ‘Johannes.’


(3) Thomas Wallensis (bu f. 1255), Brawd Llwyd, ac esgob Dewi; y mae'n sicr, ar ei air ef ei hunan, ei fod yn Gymro. Yr oedd yn un o bedwar athro cyntaf y Brodyr Llwydion yn Rhydychen, a chan Roger Bacon a Robert Grosseteste air da iddo (Little, Studies in English Franciscan History, 194-5). Penodwyd ef yn esgob Dewi, 16 Gorffennaf 1247, cysegrwyd ef 26 Gorffennaf 1248, a bu f. 11 Gorffennaf 1255.


(4) Thomas Wallensis (bu f. 1350?), Brawd Du, a fu dan addysg yn Rhydychen a Pharis. Cyhuddwyd ef o heresi yn 1332 (gan y Brodyr Llwydion), ond daeth yn rhydd. Yr oedd yntau'n sgrifennwr toreithiog, a chan iddo sgrifennu ar yr un testunau'n union â ‘Johannes Wallensis’ — a'i fwriad yntau ar hyfforddi pregethwyr — nid annaturiol fu i weithiau'r naill Gymro gael eu priodoli i'r llall (a gweithiau cyffelyb gan awduron eraill i'r naill neu'r llall) — cymh. llyfr A. G. Little (uchod) â llyfr G. R. Owst, Medieval Preaching in England (mynegai), sy'n rhoi llawer mwy o amlygrwydd i Thomas nag i Johannes. Y mae Thomas yn ei ddisgrifio'i hunan fel ‘hen ŵr tlawd, dan y parlys,’ yn 1349, a thybir iddo farw yn 1350.

Llyfryddiaeth:

  • D.N.B., a'r llyfrau eraill a enwyd.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.