Ysgrifennodd Iohannes Gallensis lawer o lyfrau, er nad ei eiddo ef ydyw'r cwbl a dadogir arno. Ymysg ei ysgrifeniadau pwysicaf y mae: (a) ‘Breviloquium de sapientia sanctorum,’ ymdrafodaeth fer ar ddoethineb Gristionogol, a ddilynir yn rhai o'n testynau printiedig gan ‘Breviloquium de virtutibus antiquorum principum et philosophorum,’ testyn sydd yn defnyddio cofiannau gwŷr mawr yr hen fyd i ddangos y pedair prif rhinwedd; (b) ‘Summa collationum ad omne genus hominum,’ neu ‘Communiloquium,’ traethawd maith yn saith o rannau ac yn llawn o hyfforddiadau i'r pregethwr sut i annerch pob math ar ddynion; (c) ‘Compendiloquium de vitis illustrium philosophorum et de dictis moralibus eorundem,’ traethawd mewn deg o rannau, wedi ei amcanu i roddi esiamplau calonogol i Gristionogion allan o fywydau a dywediadau hen athronwyr. Ymysg gweithiau eraill y mae ‘Summa de Paenitentia,’ ‘Summa Iustitiae,’ ‘Moniloquium’ (ar bechodau a rhinweddau a'u gwobrwyon), ‘Legiloquium’ (ar y Deg Gorchymyn), rhai pregethau, ac, efallai, rai esboniadau. Dywedir hefyd iddo gychwyn y ‘Manipulus Florum’ neu ‘Flores Doctorum’ poblogaidd a gwplawyd gan Thomas of Ireland. Cynulliadau ydyw’r llawlyfrau hyn gan mwyaf. Nid ydynt yn arddangos dyfnder na gwreiddioldeb meddwl nac unrhyw ddiddordeb mewn metaffyseg, mathemateg, na gwyddoniaeth naturiol; eithr y maent yn profi i'r awdur ddarllen yn helaeth ac yn dangos inni gymaint o bwysigrwydd a roddid ganddo ar athrawiaethu mewn modd ymarferol. Y mae'n dyfynnu o gylch eang o awduron Lladin — o'r cyfnod clasurol, o oes y tadau eglwysig, a'r Canol Oesoedd — gan gynnwys cyfieithiadau Lladin o weithiau'r athronwyr Arabaidd Averroes ac Avicenna, ac eraill; eithr mewn cyfieithiadau yn unig y gwyddai am waith awduron Groegaidd. Yr awdur ‘modern’ a hoffai fwyaf oedd John o Salisbury. Gydag ychydig iawn o eithriadau y mae Johannes Gallensis yn ei ddifodi ei hun yn gyfan gwbl, a chan na feddai ar safbwynt beirniadol tuag at yr hyn y mae yn ei ysgrifennu y mae yn aml yn euog o amryw wrthddywediadau a ffolinebau. Prin hefyd ydyw ei gyfeiriadau at y byd a oedd yn gyfoes ag ef. Bu ei weithiau yn boblogaidd, a hynny trwy haeddiant, am lawer canrif, ar gyfrif y cyflawnder o ‘exempla’ (esiamplau) a oedd ynddynt, eu moesoldeb ymarferol diffuant, a'r ysbryd goddefgar a ddangosid ynddynt.
Yr Athro William Hopkin Davies, M.A., Aberystwyth
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.