WALTERS, JOHN (1760-1789), clerigwr, bardd, ac ysgolhaig;
g. 11 Mehefin 1760 yn Llandochau, mab hynaf John Walters [q.v.], rheithor Llandochau, ac fe'i haddysgwyd yn ysgol ramadeg y Bont-faen. Ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, yn 1777, a chymerth y radd B.A. yn 1781 a'r radd M.A. yn 1784. Bu'n islyfrgellydd yn llyfrgell Bodley. Yn 1783 fe'i penodwyd yn brifathro ysgol ramadeg y Bontfaen, a chafodd guradiaeth yn y dref honno. Tua diwedd 1784 fe'i penodwyd yn brifathro ysgol ramadeg Rhuthyn, ac wedi hynny cafodd reithoraeth Efenechtyd, lle y bu f. 28 Mehefin 1789. Enillodd gryn sylw fel bardd Saesneg, a phan oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg Iesu,, cyhoeddodd gyfrol o gerddi Poems, with Notes, 1780. Y mae'n eglur fod ei dad wedi ennyn ei ddiddordeb mewn astudiaethau Cymreig, ac yn 1782 cyhoeddodd gyfieithiadau mydryddol o hen gerddi Cymraeg, Translated Specimens of Welsh Poetry. Tynnodd sylw Cymry Llundain, ac wedi marw Richard Thomas [q.v.] fe'i hanogwyd i gyhoeddi canu Llywarch Hen, gyda chyfieithiad Saesneg. Cyhoeddwyd darn o'r cyfieithiad hwn yn llyfr Warrington, The History of Wales, 1788. Rhoes nodiadau i Edward Jones (‘Bardd y Brenin’) [q.v.] i'w cynnwys yn ei ragymadrodd i'w lyfr, Musical and Poetical Relicks, 1784. Dengys llythyrau'r cyfnod fod Cymry Llundain yn edrych arno fel ysgolhaig ifanc a allai hyrwyddo eu cynlluniau hwy. Cyhoeddodd amryw lyfrau eraill, gan gynnwys argraffiad o lyfr Roger Ascham, Toxophilus.
Awdur:
Athro-Emeritus Griffith John Williams, M.A., (1892-1963), Gwaelod-y-garth, Caerdydd