WALTER, LUCY (1630? - 1658), gordderch y brenin Siarl II

Enw: Lucy Walter
Dyddiad geni: 1630?
Dyddiad marw: 1658
Partner: Charles
Plentyn: Mary Walter
Plentyn: James Scott
Rhiant: Elizabeth Walter (née Prothero)
Rhiant: William Walter
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: gordderch y brenin Siarl II
Maes gweithgaredd: Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: James Frederick Rees

merch ag iddi gysylltiadau â rhai o deuluoedd blaenllaw de-orllewin Cymru. Yr oedd ei thad, William Walter, Roch Castle, Sir Benfro, yn ŵyr i William Walter a brynasai faenor Roch gan deulu de Longueville c. 1601. Ei wraig ef oedd Jane, ferch Francis Laugharne, S. Brides, a'i wraig Janet, ferch John Philipps, Castell Pictwn. Elizabeth Prothero (merch John Prothero, Nantyrhebog, Sir Gaerfyrddin, ac Eleanor, ferch Walter Vaughan, y Gelli Aur, Sir Gaerfyrddin) oedd ei fam: yr oedd hi, felly, yn nith i John Vaughan, iarll 1af Carbery.

Bu rhieni Lucy yn ymgyndynnu'n gas am gyfnod hir. Ym mis Mai 1641 achwynodd y fam yn erbyn y tad, William Walter, gan ddywedyd iddo ei gadael, a llwyddodd i gael dyfarniad i gymryd ei stad oddi arno ('sequestration'); yn ddiweddarach, fodd bynnag, sef yn 1647, diddymwyd y dyfarniad a rhoddwyd gofal y plant, sef Richard Lucy, a Justus, ar y tad. Yn 1643 rhoes Richard Vaughan, ail iarll Carbery, warchodlu a oedd o blaid y brenin, Siarl I, yng nghastell Roch. Cymerwyd y castell gan Rowland Laugharne, wedi i fyddin y brenin gael ei gorchfygu ganddo yn Pil (ar hafan Aberdaugleddau), fis Chwefror 1644, eithr fe'i cymerwyd eilwaith (ym mis Mehefin) gan y Brenhinwyr o dan Syr Charles Gerard. Maentumiai William Walter fod ei golledion ynglŷn â'r castell yn cyrraedd y swm o £3,000 ac iddo orfod ffoi i Lundain. Nid oes amheuaeth na bu'r teulu yn byw yn Llundain am gyfnod hir pan oeddid yn ymgyndynnu (fel y nodwyd uchod). Ni wyddys sut y bu i'r tywysog Cymru ieuanc ddyfod i adnabod Lucy. Yn haf 1648 yr oedd hi gyda'r llys brenhinol (a oedd mewn encil) yn yr Hâg; bu wedyn gyda'r llys ym Mharis. Ganwyd eu mab, James, yn Rotterdam, 9 Ebrill 1649, a bu i Lucy hefyd ferch, Mary, a anwyd yn yr Hâg 6 Mai 1651. Yn 1656 dychwelodd Lucy i Lundain, eithr cymerwyd hi i'r ddalfa fel ysbïwr tybiedig a dodwyd hi, gyda'i morwyn, Anne Hill, yn Nhŵr Llundain. Y rheswm a roes hi yn ei hamddiffyniad ydoedd iddi ddychwelyd i gasglu cymynrodd o £1,500 a adawsid iddi gan ei mam, a fuasai farw ychydig cyn hynny. Gollyngwyd hi yn rhydd, eithr gorchmynnwyd iddi adael y wlad. Cafodd Siarl y plentyn i'w feddiant - yr oedd yn ei gydnabod yn fab iddo'i hun - a rhoes ef yng ngofal ei fam, sef y frenhines Henrietta Maria. Ar ôl yr Adferiad crewyd ef yn ddug Monmouth ac yn ddiweddarach priododd Anne Scott, a oedd â hawl ganddi i'w galw ei hun yn iarlles Buccleuch. Yn ystod yr helynt ynglŷn â'r ' Exclusion Bill,' 1679-81, rhoddwyd yr hanes ar led (a daethpwyd i gredu'r hanes yn bur gyffredinol) ddarfod i Siarl briodi Lucy Walter ac mai James, o'r herwydd, ydoedd gwir aer y goron.

Bu Lucy farw yn Paris yn 1658. Bu ei brawd hynaf Richard Walter, yn siryf sir Benfro yn 1657. Dilynwyd ef yn stadau Roch gan ei fab Richard Walter a grewyd yn farchog ac a fu'n siryf yn 1727 pryd y cysylltid ei enw â Rosemarket.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.