Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WALTER, ROWLAND (‘Ionoron Glan Dwyryd ’; 1819-1884), chwarelwr a bardd; g. yn Cefnfaes, Congl-y-wal, Blaenau Ffestiniog, o rieni a ddaethai o ardal Margam, sir Forgannwg. Dechreuodd anfon englynion i'w cyhoeddi yn Y Gwladgarwr pan oedd tua 19 oed. Yn 1852 cyhoeddodd Lloffyn y Gweithiwr, sef Awdlau a Chaneuon ar wahanol Destynau. Yr un flwyddyn (neu 1853?) ymfudodd i U.D.A., gan ymsefydlu fel chwarelwr yn Hydeville, Vermont, a pharhau i gyfansoddi englynion a phenillion a'u hanfon i'r Cenhadwr Americanaidd a'r Drych. Yn 1872 cyhoeddodd Caniadau Ionoron, yn cynnwys Awdlau, Cywyddau, Englynion, a Phennillion (Utica). Daeth ei gerdd ‘Bedd y Dyn Tylawd’ yn bur boblogaidd. Bu f. Mawrth 1884 yn Fairhaven, Vermont, U.D.A. [‘yn 64 oed’ yn ôl Blackwell].

Llyfryddiaeth:

  • W. J. Gruffydd, Y Flodeugerdd Gymraeg;
  • llythyrau ‘Ionoron’ ym meddiant R. Owen.

Awdur:

Robert (Bob) Owen, O.B.E., M.A., (1885-1962), Croesor

Atodiadau a chywiriadau:

WALTER, ROWLAND (Bywg., 950) ‘Bedd fy Nghariad’ oedd ei gân ef; gw. hi yn Blodeugerdd W. J. Gruffydd, t. 51. John Jones, ‘Ioan Emlyn’ (Bywg., 1054) oedd awdur ‘Bedd y Dyn Tylawd’.