Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WARD, JOHN (1856-1922), ceidwad amgueddfeydd, a hynafiaethydd; g. yn Derby, fis Chwefror 1856, a bu f. yno 18 Mehefin 1922. Cychwynnodd yn fferyllydd, ond yn 1893 penodwyd ef yn geidwad amgueddfa tref Caerdydd. Ymroes i gasglu yno bethau o ddiddordeb neilltuol Gymreig, ac mewn canlyniad newidiwyd enw'r amgueddfa i ‘The Welsh Museum of Natural History, Arts and Antiquities.’ Yn 1912 pan ddaeth amgueddfa Caerdydd yn rhan o Amgueddfa Genedlaethol Cymru penodwyd Ward yn geidwad archaeoleg yn honno. Bu'n cloddio mewn mwy nag un llecyn o ddiddordeb hynafiaethol megis gwersyll Rhufeinig Gelligaer a chromlech S. Nicholas ym Morgannwg. Cyhoeddodd ddau lyfr Romano-British Buildings and Earthworks, 1911, a The Roman Era in Britain, 1911, a chyfrannodd res hir o bapurau pwysig ar hynafiaethau a phynciau cyffelyb i Trans. Cardiff Nat. Soc., Arch. Camb., Arch. Jnl., ac Archaeologia. Yn 1918 cafodd y radd o M.A. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru.

Llyfryddiaeth:

  • Gwybodaeth bersonol.

Awdur:

Archibald Henry Lee, M.A., Caerdydd