Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WARING, ELIJAH (c.1788-1857); mab Jeremiah Waring o Alton yn Hampshire. Daeth i Forgannwg tua 1810. Dechreuodd ymddiddori yn hanes Cymru, ac er mwyn goleuo'r Saeson ar y pwnc hwnnw cychwynnodd gylchgrawn Saesneg yn Abertawe yn 1813, The Cambrian Visitor: a Monthly Miscellany, cylchgrawn a barhaodd am ryw wyth mis. Ef oedd y prif olygydd, a dywedir iddo golli llawer o arian trwy'r fenter hon. Yn 1814, ymsefydlodd yng Nghastell Nedd, ac yn 1817 priododd Deborah, merch Peter Price, a chwaer Joseph Tregelles Price [q.v.], gŵr enwog yn hanes y Gymdeithas Heddwch. Crynwr oedd Waring, a byddai'n pregethu yng nghapelau'r Anghydffurfwyr yn y gymdogaeth. Yn nes ymlaen, ymunodd â'r Wesleaid. Daeth yn enwog fel pleidiwr rhyddid mewn gwlad ac eglwys, a chymerodd ran flaenllaw yn y mudiad i ddiwygio'r Senedd. Ef biau llawer o erthyglau blaen ar y pwnc hwn a gyhoeddwyd ym mhapur newydd Abertawe, The Cambrian. Nid rhyfedd, felly, ei fod yn hoff o gwmni Iolo Morganwg.’ Wedi marw Iolo yn 1826, rhoes ei atgofion amdano mewn cyfres o erthyglau a ymddangosodd yn The Cambrian. Yna yn 1850 cyhoeddodd ei gofiant enwog, Recollections and Anecdotes of Edward Williams, The Bard of Glamorgan — llyfr difyr, ond yn sicr ddigon, un o'r llyfrau mwyaf camarweiniol. Yn 1835 symudodd i Gaerdydd, ac oddi yno i Hotwells, Clifton. Dychwelodd i Gastell Nedd tua 1855, a bu f. yn nhŷ ei fab nos Sul, 29 Mawrth 1857. Ysgrifennodd lawer o farddoniaeth Saesneg, ac enillodd ei ferch, Anna Letitia Waring (1823-1910; gw. y D.N.B.), gryn amlygrwydd fel emynydd.

Llyfryddiaeth:

  • The Monmouthshire Merlin, 5 Hydref 1850;
  • D. Rhys Phillips, The Hist. of the Vale of Neath, 1925, 442-3.

Awdur:

Athro-Emeritus Griffith John Williams, M.A., (1892-1963), Gwaelod-y-garth, Caerdydd