Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WATCYN CLYWEDOG (fl., c. 1630-50), bardd; Ceir tua 50 o'i gywyddau mewn llawysgrif yn ogystal â llawer o englynion. Estynnai ei gylch clera dros siroedd Môn, Caernarfon, a Dinbych, ac yr oedd iddo nawdd yn y Berth Ddu, Bodfel, Bodwrdda, Hendre Fawr, Llannor, Llwydiarth, Plas-y-ward, a Saethon. Y mae dros hanner ei waith yn gywyddau marwnad, a chanwyd un o'r rhain i'r cyrnol Richard Bulkeley a laddwyd mewn ymryson cleddyfau ar draeth y Lafan, 19 Chwefror 1649/50. Canodd hefyd i dŷ newydd Dr. John Davies, Mallwyd [q.v.] yn 1630. Dengys ei gywyddau mawl, marwnad, gofyn, cymod, cyngor, a phriodas, fel y ffynnai'r traddodiad nawdd o hyd yn yr ardaloedd hyn.

Llyfryddiaeth:

  • Pen. MSS. 144, 151;
  • Mostyn MSS. 112, 165;
  • Cwrtmawr MS. 21;
  • Brogyntyn MS. 4;
  • Nantglyn MSS. 2, 3;
  • ‘Y Piser Hir’;
  • N.L.W. MSS. 279, 431, 434, 5269, 5272, 6499, 8330;
  • J. E. Griffith, P.A.C.F.;
  • J. Fisher, Cefn Coch MSS.

Awdur:

Yr Athro David James Bowen, M.A., Aberystwyth