WATKIN, EVAN (fl. c. 1801 — c. 1845), ysgolfeistr ac awdur;
aelod o deulu yn byw ym Moelcerni gerllaw Aberystwyth. Bu yn ysgol Ystradmeurig, eithr nid ymddengys iddo fynd i Rydychen. Yr oedd yn Llundain ym mis Ionawr 1821 yn chwilio am swydd ysgolfeistr; gwyddys iddo fod yn athro ysgol yn Twickenham, Llundain (Cavendish Square), Cheltenham, Totteridge (swydd Hertford), Aberystwyth, Worcester, Cheltenham (Charlton), Bath (Belvedere), a thrachefn yn Cheltenham. Cyhoeddodd (1) A new translation of Homer's Iliad, with notes, by Blank Blank, Esq. (London, published by A. Robertson and Co. Printed by J. Cox, Aberystwyth, 1825); (2) A Key to the Greek Language (London: A. Robertson and Co.); (3) Greek Delectus for the use of Schools; (4) Greek Grammar. Rhoes i fyny fod yn athro ysgol yn 1840 a bu'n golygu The Demetian Mirror, or Aberystwith Reporter, 12 rhifyn, a gyhoeddid gan John Cox [q.v.].
Llyfryddiaeth:
- Jnl. W.B.S., ii, 232, 270;
- N.L.W. MSS. 3295-6.
Awdur:
Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth