Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WATKYNS, ROWLAND (bu f. 1663?), clerigwr ac awdur; g. yn Longtown, swydd Henffordd, mewn rhan o'r sir honno a oedd ar un adeg yn esgobaeth Tyddewi. Sefydlwyd ef yn ficer Llanfrynach, sir Frycheiniog, yn 1635, cymerwyd ei fywoliaeth oddi arno yn 1648, eithr cafodd hi'n ôl wedi'r Adferiad. Efallai iddo f. yn 1663, y flwyddyn y sefydlwyd ei olynydd, Thomas Lewis, yn y fywoliaeth. Hyd y gwyddys, un llyfr yn unig a gyhoeddodd, sef Flamma sine Fumo: or Poems without Fictions (London, 1662). Ceir ynddo ganu, yn Lladin a Saesneg, i lawer o gyfoeswyr y bardd yn Ne Cymru a'r gororau, yn arbennig i aelodau rhai o'r teuluoedd tiriog. Y mae'n amlwg ei fod yn briod gan iddo ganu ‘An epitaph upon my beloved daughter Susanna Watkyns, who was born upon Ash Wednesday, 1655, and dyed the 5 of August, 1658.’

Llyfryddiaeth:

  • Bradney, ‘Flamma sine Fumo,’ yn Jnl. W.B.S., ii, 145-7.

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth