Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WAYNE (TEULU), sir Forgannwg ;

Wayne, Matthew (c.1780-1853), meistr gwaith haearn a pherchennog pyllau glo. Daeth gyntaf i sylw fel goruchwyliwr ffwrnais Richard Crawshay [q.v.], Cyfarthfa. Yr oedd gan Crawshay gymaint o feddwl o Wayne nes y gadawodd iddo £800 yn ei ewyllys. Gyda'r arian hwn — bu Crawshay f. yn 1810 — gallodd Wayne ddyfod yn bartner gyda Syr Joseph Bailey [q.v.], nai Richard Crawshay, i brynu gwaith haearn llewyrchus Nantyglo, a gymerwyd ar les ganddynt 28 Mawrth 1811. Llwyddodd y partneriaid gymaint nes i Wayne allu ymneilltuo o'r bartneriaeth c. 1820 i wneuthur lle i frawd Syr Joseph Bailey, sef Crawshay Bailey [q.v.], â digon o arian ganddo i ddechrau busnes drosto'i hun. Ymddengys iddo ddychwelyd i ardal Cyfarthfa. Yn 1823 yr oedd yn rhyddddeiliad tir yn Gelli-deg, Merthyr Tydfil, ac yn aelod amlwg a haelionus yn Hen Dŷ Cwrdd Cefn Coed y Cymer. Yn nhir y capel hwn y claddwyd ef a'i wraig, Margaret, merch William Watkyn, amaethwr, Pen-moel-allt, Cwm Taf.

Yn 1827 sefydlodd Wayne ei waith haearn ei hun yn y Gadlys, Aberdâr; yr oedd George Rowland Morgan ac Edward Morgan Williams hefyd yn y busnes hwn, eithr ymneilltuodd Edward Morgan Williams yn 1829. Ar Wayne yr oedd prif ofal y gwaith ar y cyntaf — nid oedd gan ei feibion (isod) ran ynddo. Gwaith bychan, cryno, ydoedd o'i gymharu â'r gweithydd yn Abernant, Llwydcoed, etc.; dim ond un ffwrnais a oedd ynddo am gryn amser. Yn 1828 anfonodd y cwmni 444 tunell o haearn ar y gamlas i Gaerdydd. Erbyn 1836 yr oedd y swm wedi cyrraedd 1,291 tunnell — a dyma'r pryd y daeth y meibion i'r busnes, a hynny oblegid fod y tad yn mynd i oedran. Dywedai ysgrifennydd yn y Cardiff and Merthyr Guardian, 12 Mawrth 1853, sef wedi marw Wayne, mai efe oedd y cyntaf i anfon glo i Gaerdydd o fasn glo Aberdâr, ac mai iddo ef, yn anad neb, yr oedd llwyddiant diwydiannol Aberdâr yn fwyaf dyledus gan mai efe oedd y cyntaf i ddarganfod rhinweddau gwerthfawr y glo ager, a dyfod â'r glo hwn i sylw'r cyhoedd. Eithr ei fab ef, Thomas Wayne (isod), a gaiff y clod am hyn fel rheol; dywedir mai ef a anogodd ei dad a'i frawd hŷn i gloddio am y wythïen lo bedair troedfedd enwog, fel y gwnaethai Lucy Thomas [q.v.], Waunwyllt, Merthyr Tydfil. Gyda theulu David, Abernant-y-groes, Cwmbach, a'i ddau fab, Thomas a William Watkin Wayne (isod), ffurfiodd Matthew Wayne gwmni a alwyd Wayne's Merthyr-Aberdare Steam Coal Company a dechreuwyd cloddio'r pwll ym Mehefin 1837. Wedi iddynt gloddio 49 llath i lawr cyraeddasant y glo a dangosasant esiamplau ohono yn Llundain ar 13 Rhagfyr. O hyn ymlaen yr oedd y tad a'r meibion yn brysur gyda'r gwaith haearn yn y Gadlys a'r gweithydd glo a oedd yn gyswllt â hwy (Pwll Newydd a'r Graig), a chyda'r pwll newydd yn Cwmbach. Yn 1839 anfonwyd 1,081 tunell o haearn a 3,373 tunell o lo i ffwrdd, yn 1845 codwyd 38,000 tunell o lo o lofa Cwmbach, ac yn 1846 codwyd 48,000 tunell; erbyn hyn yr oedd yr haearn a'r glo yn cael eu hanfon ar y rheilffordd yn ogystal ag ar y gamlas i Gaerdydd. Yn 1850 yr oedd pedair ffwrnais yn y Gadlys, a'r un flwyddyn sefydlwyd y Gadlys Tin Works.

Bu Matthew Wayne f. 7 Mawrth 1853, gan adael pedwar mab —



(1) William Watkin Wayne (1808-1863), Plasnewydd , Llwydcoed ; yn gynnar yn ei yrfa yr oedd ef yn Maesteg fel swyddog yn y Llynfi Valley Ironworks. Priododd, 1837, Gwenllian, merch Rees Jenkins, Glyncorrwg, a bu un ferch o'r briodas.


(2) Thomas Wayne (1810-1867). Bu ef am flynyddoedd yn gynrychiolydd cwmni'r gamlas; yr oedd hefyd yn drysorydd (ac yn un o ymddiriedolwyr) yr Aberdare Turnpike Trust. Wedi i'w dad farw daeth yn rheolwr gwaith haearn y Gadlys, a bu'n ychwanegu at y gwaith a'i wella. Bu f. 29 Mawrth 1867.


(3) Matthew Wayne (1812-1852), perchennog y Carmarthen Tin Works. Priododd, ond ni bu iddo blant. Bu f. fis Ionawr 1852 yng Nghaerfyrddin.


(4) Watkin Wayne (1815-1869), Tŷ Mawr, Rhondda. Bu iddo yntau gyfran yng ngwaith alcam Caerfyrddin. Bu f. 16 Ebrill 1869.
Yr oedd un o ferched Matthew Wayne (sef y tad) yn briod â William Morgan, Hafod. Disgynyddion o'r briodas hon ydyw'r rhai sydd yn dwyn y cyfenw Wayne-Morgan.

Llyfryddiaeth:

  • Gardd Aberdâr, 1854;
  • D. Watkin Jones (‘Dafydd Morganwg’), Hanes Morganwg, 1874;
  • T. Lewis, Hen Dŷ Cwrdd Coed y Cymmer, 1947;
  • C. Wilkins, The South Wales Coal Trade;
  • C. Wilkins, Hist. of the Iron, Steel, and Tinplate Trades, 1903;
  • Elizabeth Phillips, Pioneers of the Welsh Coalfield, 1925;
  • D. Mushet, Papers on Iron and Steel, 1840;
  • H. Scrivenor, Hist. of the Iron Trade, 1854;
  • W. H. Smyth, Nautical Observations on the Port of Cardiff, 1840;
  • John Lloyd, Old South Wales Iron Works, 1906;
  • N.L.W. MS. 2878;
  • N.L.W., Llandaff Diocese Visitations, Queries, etc.;
  • newyddiaduron De Cymru, etc.

Awdur:

Watkin William Price, M.A., (1873-1967), Aberdâr

Atodiadau a chywiriadau:

WAYNE (TEULU; Bywg., 953) G. Matthew Wayne yn (?)Stogursey, Gwlad-yr-haf, yn 1780. Erbyn 1806 preswyliai yn Ivy House, Nantygwenith St., Merthyr Tudful, ac er ei fod wedi prynu les ar waith haearn Nant-y-glo, Myn., yn 1811, ym Merthyr y g. ei ferch Mary yn 1816. Wedi sefydlu gwaith haearn a suddo'r lofa ddofn gyntaf yn Aberdâr, Morg., ymgartrefodd yn Glandare House. Bu f. 1854 yn 73 ml. Noder mai brawd, nid mab, Syr Joseph Bailey oedd Crawshay Bailey.

Awdur:

David Leslie Davies, Aberdâr