WHELDON, THOMAS JONES (1841-1916), gweinidog gyda'r Methodistaid Calfinaidd;
g. 10 Mawrth 1841 yng Nghae-esgob, Llanberis, yn fab i John a Mari Wheldon; symudodd ei rieni'n fuan i Lwyn-celyn — ei fam yn gweinyddu doniau'r ysbryd, a'i dad o farn annibynnol. Addysgwyd ef yn Ysgol Frutanaidd Capel Coch, Llanberis, a daeth yn ddisgybl-athro ynddi. Yn 1857 aeth i Goleg y Bala, ac yn 1864 graddiodd ym Mhrifysgol Llundain. Cynigiwyd iddo swydd dan Lywodraeth India, ond gwell fu ganddo'r weinidogaeth. Bu'n fugail ar eglwysi'r Drenewydd ym Maldwyn (1864-73), Tabernacl a Bethesda, Blaenau Ffestiniog (1873-92), a'r Tabernacl ym Mangor (1892-1909). Ymddeolodd i'r Rhyl a bu f. yno 28 Hydref 1916, Ei briod oedd Mary Elinor Powell (bu hi f. 8 Mehefin 1915); cawsant bump o blant. Bu'n weinidog hynod egnïol yn ei eglwysi; yr oedd yn bregethwr grymus, yn gerddor, yn godwr capelau, yn enwedig y Tabernacl, Bangor, ac yn fawr ei sêl dros gynhaliaeth ac addysg y weinidogaeth. Ym Mlaenau Ffestiniog yr ymdrechodd fwyaf gydag addysg; bu'n foddion i sefydlu'r ‘Higher Grade School’ yno, y gyntaf yng Ngogledd Cymru, ac i sicrhau ysgol ganolraddol hefyd i'r ardal. Ym Mangor yr oedd ar bwyllgor addysg y sir ac yn fawr ei ddiddordeb yng Ngholeg y Brifysgol. Yn wleidyddol, yr oedd yn Rhyddfrydwr cryf; bu'n flaenllaw iawn yn etholiad 1885 ym Meirion, ac wedyn yn gefn i T. E. Ellis; yn nes ymlaen, safodd yn gadarn yn erbyn y rhyfel yn Ne Affrica. Yn ei gyfundeb, daeth yn gynnar yn arweinydd; bu'n llywydd cymdeithasfa'r Gogledd yn 1891 ac yn llywydd y gymanfa gyffredinol yn 1902-3. Sgrifennai i'r cyfnodolion, a chyhoeddwyd ei ‘Ddarlith Davies’ (The Holy Spirit) yn 1900. Y mae cofiant iddo gan D. D. Williams, 1925.
Awdur:
Syr Wynn Powell Wheldon, K.B.E., D.S.O., M.A., Ll.D., (1878-1961), Prestatyn