Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WHITE, JOHN (1590-1645), Piwritan; g. 29 Mehefin 1590, mab Henry White, Henllan (‘Hentland’), plwyf Rhoscrowther, sir Benfro. Yr oedd yn disgyn o deulu o farsiandwyr yn Ninbych-y-pysgod; dywedir i Thomas White, aelod o'r teulu hwnnw, gynorthwyo Harri Tudur i ffoi i Lydaw yn 1471. Ymaelododd John White ym Mhrifysgol Rhydychen, o Goleg Iesu, 20 Tachwedd 1607; derbyniwyd ef i'r Inner Temple 6 Tachwedd 1610, gwnaethpwyd ef yn fargyfreithiwr ar 19 Mehefin 1618, a daeth yn ‘bencher’ yn 1641. Yn 1625 cododd ef ac un dyn ar ddeg arall gronfa i brynu degymau a gymerasid oddi ar y rhai a arferai eu cael. Yr amcan ydoedd darparu i gael gweinidogion a oedd yn barod i bregethu; cymerwyd arian y gronfa oddi arnynt, fodd bynnag, gan lys yr Exchequer. Daeth White yn aelod seneddol dros Southwark yn 1640. Yn 1642 ef oedd aelod mwyaf blaenllaw y Committee for Plundered Ministers, sef y pwyllgor a droai allan o'u bywiolaethau y clerigwyr hynny a bleidiai'r brenin. O'r profiad hwn y deilliodd ei lyfr, The First Century of Scandalous and Malignant Priests, 1643, sydd yn cynnwys hanes cant o gyfryw offeiriaid. Enillodd y llyfr hwn iddo y llysenw ‘Century White.’ Bu f. 29 Ionawr 1645, a chladdwyd ef yn y Temple Church, Llundain.

Llyfryddiaeth:

  • D.N.B.;
  • Students admitted to Inner Temple, i, 95;
  • Nicholas, 1872, 911 (ychydig o hanes y teulu).

Awdur:

Yr Athro Emeritus David Williams, D.Litt., (1900-78), Aberystwyth