WHITFORD, RICHARD (bu f. 1542?), offeiriad ac awdur;
credir ei fod yn frodor o Chwitfford yn sir y Fflint; yr oedd gan ewythr o'r un enw ag ef diroedd yno ac yn yr Hôb, a adawodd (gyda thiroedd eraill, yn Lancashire) i'w nai John Edwards, frawd ei chwaer, ac ymddengys mai aelod arall o'r teulu oedd yr Hugh Whitford a oedd yn rheithor Chwitfford yn 1537-60. Aeth Richard i Queens' College yng Nghaergrawnt yn 1495, a chafodd gymrodoriaeth yno yn 1497 (daliodd hi hyd 1504), pryd yr aeth i'r Cyfandir yn gaplan gyda'r arglwydd Mountjoy. Gan fod yr ysgolhaig enwog Erasmus yn athro i Mountjoy, tyfodd cyfeillgarwch rhwng Erasmus a Whitford — cyfaill mawr i'r ddau oedd Syr Thomas More, ac y mae gennym lythyrau a basiodd rhwng y tri. Daeth Erasmus gyda Mountjoy a Whitford i Loegr, a bu'n tario beth amser gyda Whitford yn Rhydychen a Chaergrawnt — odid nad ei breswyl dros dro yn Rhydychen y pryd hwn a barodd i Anthony Wood ddweud mai myfyriwr yn Rhydychen oedd Whitford. Tua 1500 penodwyd ef yn gaplan i Richard Foxe, esgob Winchester, serch nad oedd ganddo, i bob golwg, farn uchel am Foxe (dylid dweud bod y D.N.B. yn amau dilysrwydd ymosodiad ar Foxe a briodolir iddo). Yn 1507, ymunodd â chwfaint Syon House yn Isleworth (cwfaint o leianod, ond yr oedd yno ychydig ganoniaid o gyffeswyr a chaplaniaid); yno eisoes yr oedd ei ewythr Richard Whitford, a fu f. yno yn 1511 — gw. y dyfyniad o'i ewyllys yn Arch. Camb., 1880, 221, ond prin y gellir derbyn y nodyn ar waelod y ddalen. Bwriodd Richard (ieu.) ei dymor yn y cwfaint yn sgrifennu llyfrau defosiwn ar gyfer y lleianod, ond cafodd y llyfrau gryn gylchrediad y tu allan i'r muriau hefyd. Pan ymwelodd cennad y brenin â Syon House (1534) i chwilio am achos dros ei ddiddymu, gwrthsafodd Whitford ef yn eofn. Ond diddymwyd y cwfaint yn 1539, ac o hynny allan cafodd Whitford nawdd gan Mountjoy. Yr oedd yn fyw yn 1541; ond mewn copi o un o'i lyfrau yn Lambeth, o dan y geiriau ‘the olde wretched brother of Syon,’ chwanegodd llaw gyfoes y geiriau ‘ob. an. Dni. 1542’; gellid meddwl felly mai yn 1542 y bu f., serch bod rhai'n credu iddo fyw bron hyd ddiwedd oes Mari frenhines.
Rhydd y D.N.B. restr o 16 o lyfrau a gyhoeddwyd ganddo; chwanegodd yr archddiacon A. O. Evans [q.v.] bedwar llyfr arall. Y pwysicaf i ni yw ei gyfieithiad Saesneg o Imitatio Thomas à Kempis (noder fodd bynnag mai i Jean Gerson y priodola Whitford y llyfr). Yn 1556 y cyhoeddwyd y cyfieithiad dan enw Whitford, ond yr oedd wedi ymddangos yn ddi-enw mor gynnar â 1531 ac wedi ei ailargraffu bedair gwaith yn y cyfamser. Barnai Ronald Bayne (awdur yr ysgrif yn y D.N.B. arno) fod trosiad Whitford ‘in style and feeling the finest rendering into English of the original.’
Llyfryddiaeth:
- Venn, Alumni Cantab.; llythyrau 89 a 191 yn arg. P. S. Allen o lythyrau Erasmus — gw. hefyd i, 225;
- D.N.B.;
- A. O. Evans, yn Jnl. W.B.S., iv, 7-14, 28-9; v, 57-9.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.