WILFRE (‘WILFREDUS ,’ a ffurfiau eraill), esgob Dewi
o 1085 (wedi marw Sulien [q.v.]) hyd 1115, a'r olaf o esgobion annibynnol Dewi; Cymro, ar waethaf y ffurfiau Normanaidd ar ei enw. Bwriodd ei goelbren gyda'r Cymry yn y gwrthryfel yn 1096 yn erbyn Normaniaid Dyfed, ac yn ddial am hynny diffeithiodd Gerallt o Benfro ei diroedd ym Mhebidiog yn 1097 — yn ôl Gerallt Gymro, carcharwyd Wilfre ei hunan am ddeugain niwrnod gan Arnulf Montgomery. Mewn gwirionedd, prin y gallsai Wilfre herio'r Eglwys estron yn obeithiol iawn wedi marw Rhys ap Tewdwr (1093), a gwnaeth ei heddwch ag Anselm, archesgob Caergaint (a oedd wedi ei esgymuno gynt); amddiffynnodd Anselm fuddiannau esgobaeth Dewi> yn erbyn barwniaid Normanaidd y Deheubarth. Nid yw'n eglur a olygai'r cymod hwn fod Wilfre bellach yn rhoi ufudd-dod canonaidd i Gaergaint. Ond sut bynnag am hynny, efe oedd yr olaf o'r hen linell o esgobion Dewi. Bu f. yn 1115.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.