WILIAM ALAW (fl. c.1535), bardd uchelwyr;
Ymhlith yr ychydig o'i waith sydd ar glawr ceir cywydd marwnad i Lywelyn ab Ieuan ab Hywel (bu f. 1534) o Foelyrch sydd wedi ei groniclo yn llawysgrif y plas (Pen. MS. 103 (17)). Yr oedd yn un o'r beirdd a ganodd farwnadau i Rys Llwyd ab Einion Fychan o'r Gydros, ac Angharad ei wraig (Mostyn MS. 148 (128)). Canodd hefyd gywydd i ofyn siaced gan Robert Wyn ap Morus o Abertanad (Llanst. MS. 125 (265)). Claddwyd ef yng Nghroesoswallt (Pen. MS. 122, 123).
Awdur:
Yr Athro David James Bowen, M.A., Aberystwyth