Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WILIAM EGWAD (c.1450), bardd; Ni wyddys ddim am ei fywyd, ond tebyg fod iddo gysylltiad â phlwyf Llanegwad, sir Gaerfyrddin (Lloyd, Hist. Carms., ii, 413). Dywed Pen. MS. 122 (119) iddo gael ei gladdu yn Llanegwad Fawr. Am ei weithiau mewn llawysgrifau gw. H. Lewis a L. Jones, Mynegai, a Catalogue of Additions to B.M. MSS. 1841-5. Gweler hefyd ei weithiau yn N.L.W. MSS. 4710, 5273, 6511, 13071, 13167, ac yn Brogyntyn MS. 2 yn Ll.G.C.

Awdur:

Griffith Milwyn Griffiths, M.A., Aberystwyth