Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WILIAM PENLLYN (fl. c.1550-1570), pencerdd telyn; Cynhwysir ei enw ymhlith telynorion talaith Aberffraw yn rhestr Pen. MS. 147 (203), a graddiodd yn bencerdd (ac athro Pen. MS. 144 (267)) yn eisteddfod Caerwys, 1568. Yn llawysgrif plas Moelyrch (Pen. MS. 103 (66)) ceir nodyn yn ei law ef ei hun yn dweud iddo glera yno ‘pan oedd y Nadolig ar ddydd Gwener’ yng nghwmni Huw Dai, Robert ap Siôn Llwyd, Wiliam Penfro, Wiliam Goch Grythor, Wmffre Grythor, Morus Grythor, Tomas Grythor o Gegidfa, a Hywel Gethin, telynorion a chrythorion. (Yr oedd y Nadolig ar ddydd Gwener yn 1551, 1556, a 1562.) Canodd englynion i Lewis Gwynn, cwnstabl Trefesgob (bu f. 1552) (Pen. MS. 114 (109)), a Gruffudd Dwnn (Llanst. MS. 433 (881)). Ceir copi o'i gerddlyfr yn llaw Robert ap Huw, Bodwigan, Môn (B.M. Add. MS. 14905). Yn ychwanegol at y cyfeiriadau uchod gw. Bodewryd MS. 2 (313); Cardiff MS. 7 (252), B.M. Add. MS. 14998 (32); N.L.W. MS. 5247.

Llyfryddiaeth:

  • Henry Lewis (gol.), Musica neu Beroriaeth (B.M. Add. MS. 14905).

Awdur:

Yr Athro David James Bowen, M.A., Aberystwyth