WILKINS, CHARLES (‘Catwg ’; 1831-1913), hanesydd;
g. yn Stonehouse, sir Gaerloyw, mab William Wilkins, a ymsefydlodd ym Merthyr Tydfil fel llyfrwerthwr. Yn 1851 daeth y tad yn bostfeistr Merthyr a bu'r mab yn glerc iddo. Dilynodd ei dad fel postfeistr 20 mlynedd yn ddiweddarach gan ymneilltuo, ar flwydd-dâl, yn 1898. Bu'n llyfrgellydd y ‘Merthyr Tydfil Subscription Library’ o'i dechreuad yn 1846; Thomas Stephens (‘Gwyddon’) [q.v.] oedd ysgrifennydd y llyfrgell. Bu f. yn ei gartref, Springfield, Merthyr Tydfil, 2 Awst 1913. Ysgrifennodd yn helaeth ar wahanol bynciau i bapurau wythnosol Merthyr a Chaerdydd, Ei brif weithiau ydyw — The History of Merthyr Tydfil, 1867 a 1908; The History of the Literature of Wales from 1300 to 1650, 1884, sef helaethiad o'r traethawd ar hanes llenyddiaeth Gwent a Morgannwg yr enillodd arno yn yr eisteddfod genedlaethol; The History of the Coal Trade of South Wales, 1888; The History of the Iron, Steel, Tinplate and other Trades of Wales, 1903. Bu'n golygu The Red Dragon, 1882-7.
Llyfryddiaeth:
- The Merthyr Express, 9 Awst 1913;
- S. W. Daily News, 4 Awst 1913.
Awdur:
Edward Ivor Williams, (1885-1958), Newbridge, Mynwy