Ymsefydlodd teulu Normanaidd o'r enw ‘de Wintona’ yn Llandochau (efallai mai yn Llandŵ) yn y 14eg g. newidiwyd yr enw i ‘Wilcoline’ neu ‘Wilkyn,’ ac yn y 17eg i ‘Wilkins.’
Bu THOMAS WILKYN (a fu f. 1623), ei fab ROGER WILKINS (a fu f. 1648), a'i ŵyr
THOMAS WILKINS (1625/6-1699)
yn rheithoriaid Llan-fair ('S. Mary Church’). Aeth y diwethaf i Goleg Iesu, Rhydychen, yn 1641; graddiodd yn y gyfraith yn 1661; gyda Llan-fair, yr oedd yn dal rheithoraethau'r Gelli-gaer (1666) a Llanfaes (1668), ac yn ganon Llandaf. Bu f. 20 Awst 1699, yn 74 oed. Ei wraig oedd Jane, ferch Thomas Carne o Nash ac ŵyres Syr Edward Stradling o San Dunwyd; cawsant bump o blant. Y mae'r Thomas Wilkins hwn yn ŵr pwysig iawn yn hanes llenyddiaeth Cymru, nid, mae'n wir, yn herwydd unrhyw gynnyrch llenyddol o'r eiddo, ond fel hynafiaethydd, disgybl i Rys Meurig (Rice Merrick) [q.v.], a chasglwr llawysgrifau; bu rhai o'r hen lawysgrifau Cymraeg pwysicaf yn ei feddiant, yn eu plith ‘Llyfr Coch Hergest’ a ‘Llyfr yr Ancr.’
Cyfreithiwr oedd ei fab hynaf, THOMAS WILKINS (1677-1736?); ef a roes y ddwy lawysgrif a enwyd i lyfrgell Coleg Iesu. Bu'n ddirprwy-brif glerc (‘deputy-protorotary’) cylchdaith Brycheiniog am gyfnod hir — nid yn brif glerc, fel yr honnir yn gyffredin; a chymerth ei dylwyth (a'u ceraint drwy briodas) ran flaenllaw iawn yn hanes cyfreithiol ac ariannol a diwydiannol Brycheiniog a'r Blaeneudir. Gellid meddwl iddo f. tua 1736, ond nid oes unrhyw sicrwydd; arwyddir cofnodion y llysoedd o 1726 hyd 1736 gan ryw ‘Wilkins,’ ac o 1744 hyd 1758 gan ‘Wilkins’ arall (?) — odid nad John Wilkins yw'r diwethaf. Bu'n briod deirgwaith. Plant ei wraig gyntaf (â Bryste y cysylltir hwy) a ddechreuodd atgyfodi'r hen gyfenw ‘de Winton.’ O'r ail briodas y ganed
JOHN WILKINS (1713-1784),
ar 15 Tachwedd 1713. Bu ef yn ddirprwy-brif glerc o 1759 (‘a chyn hynny’) hyd 1784. Priododd â Sybil Jeffreys, nith ac etifedd Walter Jeffreys (a fu f. 1746), bancer, o ochrau Llywel. Dyma ddechreuadau ‘Wilkins and Co.,’ neu'r ‘Brecon Old Bank’ (bellach wedi ei lyncu gan Lloyds Bank), y cylchredai ei nodau drwy'r Blaeneudir, banc a oedd yn ddwfn yn anturiaethau cynnar y chwyldro diwydiannol.
Haedda tri o blant John Wilkins sylw:
(1) WALTER WILKINS (1741-1828),
a wnaeth ei ffortiwn yn yr India, a brynodd stad Maes-llwch yn sir Faesyfed, ac a fu'n aelod seneddol dros y sir honno o 1796 hyd 1828; newidiodd ei dylwyth eu cyfenw (yn 1839) i ‘de Winton’;
(2) WILLIAM WILKINS
— ei bumed mab, fel y dywedir, ond nid yw hyn yn eglur; bu yntau'n ddirprwy-brif glerc, 1784-99, ac yn brif glerc o 1799 hyd ei f. yn 1812;
(3) ANNE WILKINS
a ddaeth yn wraig i John Maybery (a fu f. 1784). Mab oedd ef i Thomas Maybery, diwydiannwr o sir Gaerwrangon a oedd wedi cychwyn gwaith haearn yn Aberhonddu yn 1720 — yn 1758 cododd ‘Maybery and Wilkins’ ffwrnais ar Hirwaun. O'r briodas hon g.
Thomas Maybery
a fu o 1804 (beth bynnag) yn ddirprwy-brif glerc i'w ewythr William Wilkins ac a godwyd yn brif glerc yn 1830. Hwn oedd ‘Protonotary’ olaf cylchdaith Brycheiniog, oblegid diddymwyd y ‘Sesiwn Fawr’ yn Hydref y flwyddyn honno.
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.