WILKS, JOHN (1764 neu 1765-1854), cyfreithiwr yn Llundain ac aelod seneddol;
Yr unig reswm dros ei gynnwys yma yw mai ef oedd y cyfreithiwr a dynnodd weithred gyfansoddiadol y Methodistiaid Calfinaidd (1826), dan arolygiaeth John Elias a John Davies (1781-1848) o'r Fronheulog, Llandderfel (‘y Pab o Fôn a'r Cardinal o Fronheulog,’ chwedl Michael Roberts, Pwllheli), ac Elias Bassett o Forgannwg (gw. dan Bassett, Richard). Diamau i Wilks gael y gwaith nid yn unig am ei fod yn gefnogwr cymdeithasau crefyddol, ond hefyd am fod ei dad, Matthew Wilks, wedi bod yn un o gynghorwyr Whitefield yn y Tabernacl, ac yn un o gydweithwyr Thomas Charles yn y gwaith o ddarparu Beiblau.
Llyfryddiaeth:
- D.N.B. (dan enw ei fab, ‘Wilks, John, swindler’);
- Cylch. Cymd. Hanes M.C., Mawrth 1923 (hanes y weithred);
- W. Williams, Meth. Dwyr. Meir. (ar John Davies).
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.