WILLIAMS, ABRAHAM (1720-1783), gweinidog gyda'r Annibynwyr;
g. yn 1720 ym mhlwyf Pant-teg, sir Fynwy — efallai ym Mhontyfelin, lle y g. ei frawd (isod). Yr oedd yn gerddor, a byddai'n teithio i hyfforddi mewn canu salmau. Tebyg mai Morgan John Lewis [q.v.] a'i dug at grefydd; dechreuodd gynghori gyda'r Methodistiaid, a chydnabuwyd ef fel cynghorwr gan y sasiwn yn Nhrefeca yn 1744. Pan droes seiat y New Inn yn eglwys Annibynnol daeth yntau'n bregethwr cynorthwyol ynddi, ac ar farw M. J. Lewis urddwyd ef (1758) yn weinidog. Priododd â merch o Frynbuga, ac yno yr oedd yn byw. Bu f. 3 Medi 1783 ‘yn 63 oed,’ a chladdwyd yn y tŷ cwrdd a godasai ym Mryn-buga. Ym marn Philip David [q.v.], serch iddo unwaith (1778) ei gyhuddo o ‘rantio,’ yr oedd Abraham Williams yn bregethwr da (1775, ddwywaith) a phan gladdwyd ef, tystiai'r hen weinidog (nid heb beth petruster) mai efe oedd yr agosaf i'w le o'r gweinidogion lled-Fethodistaidd ymhlith yr Annibynwyr.
Brawd iddo oedd
WILLIAM WILLIAMS (1717-1800),
a fu yntau'n gynghorwr Methodistaidd ac wedyn yn bregethwr cynorthwyol yn y New Inn. Tua 1760, penderfynodd seiat yr Aber ym mhlwyf Llanfeigan (Brycheiniog) ddilyn esiampl y New Inn a throi'n eglwys Annibynnol. Rhyddhawyd William Williams gan y New Inn i fod yn weinidog yr Aber; cadwai ysgol yno hefyd. Heblaw hynny, cymerodd fugeiliaeth eglwys y ‘Plough’ yn Aberhonddu (parhaodd y cyswllt rhwng y ddwy eglwys hyd 1811). Bu f. yn 1800.
Llyfryddiaeth:
- H.E.A.C., i, 82-3, 86; iv, 307, 309, 341;
- dyddlyfrau (anghyhoedd) Philip David, trwy garedigrwydd y Parch. T. M. Rees
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.