Yn 1793 hwyliodd y ‘Bardd Du’ i America gan lanio yn Philadelphia, ond symudodd yn fuan i New York lle bu ei wraig farw o'r clefyd melyn. Priododd eilwaith a symudodd i Essex County, New Jersey, yn 1797, a dywaid Rowland fab Owen, a fu'n chwilio am hanes y bardd yn yr America, ar sail yr hyn a glywodd gan ei ferch, Catrin, iddo sefydlu yn Dorence, Luzerne County, Pennsylvania, yn 1798, lle prynodd dir a gosod melin i lifio coed ar yr afon, a gwneuthur cadeiriau i'w gwerthu. Dangosodd Catrin gadair o waith ei thad iddo; dellt hickory oedd ei gwaelod, a dywedodd iddi waelodi cannoedd o gadeiriau pan oedd yn llances. Credai Rowland fab Owen fod tuedd yn Abraham Williams at y Bedyddwyr pan oedd yng Nghymru ond iddo ymuno â'r Wesleaid yn America. Yn 1816 symudodd drachefn i Grist Flatts, lle ar ochr orllewinol i'r afon Susquehanna, a gwnaeth weithdy yn y fan honno fel cynt. Yn 1828 aeth i gyfarfod ynglŷn ag etholiad Andrew Jackson, y gŵr a ddewiswyd wedyn (1829) yn arlywydd yr Unol Daleithiau, ond bu'r daith yn ormod iddo, a bu f. yn fuan wedyn. Claddwyd ef mewn mynwent yn agos i'w dŷ, ac ar garreg ei fedd torrwyd: ‘Abraham Williams, Died Dec. 27 1828, Aged 73 yrs. 3 m. 9 dys.’ Daethai chwedl ddi-sail i Gymru iddo farw cyn 1816 a chanodd ‘Gutyn Peris’ awdl-farwnad iddo (Ffrwyth Awen, 60). Cafodd Abraham Williams felly ddarllen ei farwnad ei hunan, ac yn ‘Cywydd yr Adfail,’ a anfonodd i Gymru o'r ‘goedwig dywyll ar lan afon fawr Susquehana, neu afon hir a cham, Mai 30, 1819,’ cawn gyfeiriad at y farwnad annhymig a darlun da o'r bardd yn tynnu ar derfyn y daith wedi ei grwydro pell.
Griffith Thomas Roberts, M.A., Llanrug