Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WILLIAMS (TEULU), Bron Eryri (a elwid Castell Deudraeth yn ddiweddarach), sir Feirionnydd .

WILLIAMS, DAVID (‘Dewi Heli ’; 1799-1869), cyfreithiwr, ac aelod seneddol dros sir Feirionnydd; g. 30 Mehefin 1799 yn Saethon, plwyf Llanfihangel-Bachellaeth, sir Gaernarfon, mab DAVID WILLIAMS (1754-1823) a'i wraig Margaret. Aeth i Lanfyllin at ei frawd John Williams (siryf Meirionnydd, 1841-2), cyfreithiwr, ac yng nghwrs amser bu'n dilyn yr alwedigaeth honno ei hunan, yn bennaf ym Mhwllheli a Phorthmadog; ym Mhorthmadog daeth hefyd yn gyfreithiwr a phen-rheolwr i stad Madocks. Llwyddodd yn fawr, a phrynodd dai a thiroedd, gan ffurfio'r stad yr arferid ei chysylltu â'i blasty a elwid Castell Deudraeth (Bron Eryri gynt; bu ei frawd John Williams yn byw yn Bron Eryri o'i flaen). Fel y gellid casglu oddi wrth ei ffugenw yr oedd iddo beth diddordeb mewn llenyddiaeth; y mae rhai llythyrau a ysgrifennodd at John Thomas ('Sion Wyn o Eifion’) ac Ebenezer Thomas (‘Eben Fardd’) wedi eu cadw yn N.L.W. Cwrtmawr MS. 404. Bu'n glerc yr heddwch yn sir Feirionnydd, 1842-59, yn un o ddirprwy-raglawiaid y sir honno a sir Gaernarfon, yn siryf Meirionnydd, 1861-2, a sir Gaernarfon, 1862-3. Methodd gael ei ddewis yn aelod seneddol (Rhyddfrydwr) dros sir Feirionnydd yn 1859 ac 1865 eithr llwyddodd yn 1868. Priododd, 25 Medi 1841, ag Annie Louisa Loveday (bu f. 16 Mehefin 1904), merch William Williams, bargyfreithiwr, Peniarthucha, sir Feirionnydd, a bu iddynt deulu lluosog; sylwir yn fyr ar y mab hynaf a'r mab ieuengaf isod. Bu f. 15 Rhagfyr 1869 a chladdwyd ef ym Mhenrhyndeudraeth.


Dilynwyd David Williams yn stad Deudraeth gan ei fab hynaf (Syr) ARTHUR OSMOND WILLIAMS (a grewyd yn farwnig yn 1909), aelod seneddol (Rhyddfrydol) dros sir Feirionnydd, 1900-10; g. 17 Mawrth 1849. Cafodd ei addysg yn ysgol Eton. Daeth yn ustus heddwch ac yn ddirprwy-raglaw yn sir Gaernarfon, yn gadeirydd sesiwn chwarter ac yn arglwyddraglaw sir Feirionnydd, ac yn gwnstabl castell Harlech. Priododd, 3 Awst 1880, â Frances Evelyn Greaves, a bu iddynt ddau fab a dwy ferch. Bu f. 28 Ionawr 1927. Bu'r mab hynaf, Osmond Trahaearn Deudraeth Williams (1883-1915), yn swyddog ym myddin Prydain yn rhyfel y Boeriaid, daeth yn gapten yn y Welsh Guards yn ystod rhyfel 1914-8, a lladdwyd ef yn 1915 ym mrwydr Loos.


Mab ieuengaf David Williams oedd Leonard Llewelyn Bulkeley Williams (1861-1939), meddyg yn Llundain ac awdur; g. 2 Hydref 1861 a chafodd ei addysg yn ysgol Marlborough, ym Mhrifysgol Glasgow (lle y graddiodd fel meddyg), ac yn Ffrainc a'r Almaen. Ysgrifennodd erthyglau i gylchgronau meddygol a gwyddonol, ac ysgrifennodd lawer o lyfrau ar feddygaeth heblaw llyfrau yn ymwneuthur â Paris, Sbaen a Sbaeneg; rhestrir rhai o'i ysgrifeniadau yn Who's Who, 1939, ac yn y marw-goffa yn The Times, 21 Awst 1939. Bu f. 20 Awst 1939.

Llyfryddiaeth:

  • J. E. Griffith, P.A.C.F., 317;
  • J. Jones (‘Myrddin Fardd’), Enw. Sir Gaern.;
  • Edward Davies, Enwogion Swydd Feirion;
  • E. Breese, Kalendars of Gwynedd;
  • W. R. Williams, Parl. Hist.;
  • Asaph (Em. W.);
  • Burke's…Peerage;
  • Debrett;
  • Baner, 18 Rhagfyr 1869.

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth