Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WILLIAMES, RICE PRYCE BUCKLEY (1802-1871), swyddog yn y Board of Control, Llundain, a phrif gychwynnydd The Cambrian Quarterly Magazine; g. 1802, mab hynaf John Buckley Williames, Pennant, Aberriw, sir Drefaldwyn (siryf sir Drefaldwyn, 1820), a Catherine, merch ac aeres Rice Pryce, Glyncogan. Cafodd ei addysg yn ysgol Amwythig. Trwy ddylanwad Charles W. Williams Wynn (gw. Williams Wynn, Wynnstay) cafodd swydd yn y Board of Control, Llundain, a oedd y pryd hwnnw yn gofalu am yr India, a daliodd hi am rai blynyddoedd cyn ymddeol ar bensiwn. Yn weddol gynnar wedi iddo fynd i Lundain bu'n brif gychwynnydd The Cambrian Quarterly Magazine and Celtic Repository, cylchgrawn gwerthfawr a diddorol y cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf ohono ym mis Ionawr 1829 ac a barhaodd hyd 1833; bu Williames yn ei olygu am gyfnod — sylwer fod y gyfrol gyntaf wedi ei chyflwyno i'r arglwydd Ashley, ‘one of the Commissioners for the Affairs of India.’ Bu'n flaenllaw hefyd gyda llu gwirfoddolwyr milwrol sir Drefaldwyn — yn gornet yn 1819 ac yn lifftenant yn y corff newydd, yr Yeomanry Cavalry, a ffurfiwyd yn 1831, a dyfod yn ddiweddarach yn major. Priododd, 1854, ag Anna Frances Parslow, merch hynaf Humphrey Rowland Jones, Garthmyl, sir Drefaldwyn; bu unig blentyn y briodas, merch, farw o flaen ei thad. Bu f. 23 Mawrth 1871 a chladdwyd ef yn eglwys blwyf y Betws.

Llyfryddiaeth:

  • R. Williams, Mont. Worthies (ail arg.).

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth