WILLIAMS, DAVID CHRISTMAS (1871 - 1926), cerddor

Enw: David Christmas Williams
Dyddiad geni: 1871
Dyddiad marw: 1926
Rhiant: Elizabeth Williams (née Evans)
Rhiant: Gruffydd Christmas Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd 12 Medi 1871 yn Llanwrtyd, sir Frycheiniog, mab Gruffydd Christmas ac Elizabeth Evans. Yr oedd y fam yn gantores dda, ac etifeddodd y mab y dalent gerddorol, ac erbyn bod yn 14 oed yr oedd wedi cyfansoddi amryw ddarnau cerddorol. Yn 17 oed aeth i Gaerdydd at Joseph Parry am gwrs o addysg gerddorol. Yn 1890 penodwyd ef yn athro cynorthwyol i Parry yng Ngholeg Cerddorol y De, ac yn organydd a chorfeistr ym Mhenarth. Daeth i sylw yn fuan fel cyfansoddwr. Enillodd wobr am gyfansoddi rhangan, 'O agor fy llygad,' allan o 27 o ymgeiswyr, a £20 a thlws am y gantawd 'Traeth Lafan,' yn eisteddfod genedlaethol Rhyl, 1892. Perfformiwyd gwaith byr o'i eiddo, 'Brwydr yr Hafren,' yn eisteddfod genedlaethol Casnewydd, a chyfansoddodd waith cerddorol i'w berfformio yn eisteddfod genedlaethol Llandudno, 1895. Bu ei 'Destruction of Pompeii,' 'Homeward Bound,' a 'Charge of the Light Brigade' yn ddarnau praw yn yr eisteddfod genedlaethol. Cyfansoddodd lawer o anthemau a thonau. Yn 1895 ymsefydlodd yn athro cerdd ym Merthyr Tydfil, a phenodwyd ef yn organydd capel Hope yn 1898. Yn 1905 sefydlodd Gymdeithas Offerynnol Gogledd Morgannwg a wnaeth wasanaeth gwerthfawr trwy ddwyn gweithiau offerynnol y meistri i'r werin. Yn 1912 enillodd y radd o faglor cerddoriaeth yng Nghaergrawnt, ac, yn ddiweddarach, radd doethur mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Dulyn. Yn 1913 penodwyd ef yn arweinydd anrhydeddus Cymdeithas Gorawl Merthyr, ac am flynyddoedd perfformiwyd y prif gyfanweithiau gan y côr. Bu farw 21 Mawrth 1926, a chladdwyd ef ym mynwent eglwys y plwyf, Llanwrtyd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.