Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WILLIAM, DAVID (1720/1-1794), emynydd; g. ym mhlwyf Llanedi, sir Gaerfyrddin. Ef, o bosibl, yw'r David William, ‘exhorter in Llanfynydd’ a aeth i gadw ysgol, yn ôl adroddiad James Williams i'r sasiwn Fethodistaidd, yn 1743. Gwyddys ei fod yn gynghorwr, a hawdd yw ei gymysgu â David Williams [q.v.], Llyswyrny. Trigai yn ‘Llandeilo fach, yn sir Forganwg’ pan gyhoeddodd ei lyfryn cyntaf yn 1760, ond ‘gynt o Landeilo Talybont’ sydd ar ddalen-deitl llyfryn a gyhoeddodd yn 1777 ‘yn y 56 o Oedran, a thri Mis.’ Bu'n athro cylchynol yma a thraw am rai blynyddoedd. Hanoedd ei wraig o ffermdy Nant-y-moel, plwyf Llangyfelach (yr oedd iddo fab, Israel William, yn Llangyfelach), ac yn ôl pob hanes gwraig annynad oedd hi. Dywedir mai o'i hachos y bu raid iddo ymadael â'r Methodistiaid. Ymunodd â'r Bedyddwyr, a bedyddiwyd ef wrth bont Llanbedr-y-fro, Morgannwg, 29 Mehefin 1777. Yr oedd yn un o sefydlwyr eglwys Fedyddiedig Croes-y-parc ac yn bregethwr ynddi. Bu f. 1 Hydref 1794, a'i gladdu yng Nghroes-y-parc.

Y mae ei emynau (megis ‘Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau’, etc.) mewn bri mawr o hyd. Ei gyhoeddiad cyntaf oedd Golwg y Fyddloniaid ar Degwch a Gogoniant Jesu Crist (Caerfyrddin, 1760). Cyhoeddodd gyfres enwog wedyn yn dwyn y teitl Gorfoledd ym Mhebyll Seion (c. 1760-2, Caerfyrddin; 1777, Caerfyrddin; 1778, Aberhonddu; a 1778, Aberhonddu). Cyhoeddwyd y rhannau yn un gyfrol dan yr un teitl yn 1782 (Aberhonddu), a ‘Trydydd Argraffiad’ gydag ychwanegiad yn 1786 (Caerfyrddin). Ceir argraffiad Saesneg yn 1779, sef Joy in the Tents of Zion (Aberhonddu). Llyfrynnau eraill o'r eiddo yw Diferion o Ffynnon Iechydwriaeth (Caerfyrddin, 1777), Hymnau Priod-ferch y Brenin Alpha (Caerfyrddin, d.d.), Gwin i'r Diffygiol (Caerfyrddin, d.d.), a Myfyrdod y Pererin (Caerfyrddin, d.d.). Cyhoeddodd rai caneuon hefyd, ynghyd â nifer o farwnadau.

Llyfryddiaeth:

  • C.M. Archives, Trev. Group, N.L.W. 3005;
  • H. Bevan, Ychydig Hanes neu Goffadwriaeth, 1838, 24;
  • Hanes y Bed.. (ail arg.), 579;
  • Yr Adolygydd, 1851, 334;
  • Y Traethodydd, 1867, 168; 1872, 293;
  • Ser. G., 1904, 44, 209;
  • Cylch. Cymd. Hanes M.C., xxii, 115; xxxiv, 47;
  • Gen., 1911, 10.

Awdur:

Y Parch. Gomer Morgan Roberts, M.A., (1904-93), Pont-rhyd-y-fen / Llandudoch / Llandybïe