Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



WILLIAMS , EDWARD (‘ Iolo Morganwg ’; 1747 - 1826 ).

Mab Edward Williams o bentref Pennon ym mhlwyf Llancarfan ym Morgannwg . Fe'i ganed (meddai ef ei hun) ar y ddegfed o Fawrth 1747 . Symudodd ei rieni wedi hynny i bentref cyfagos Trefflemin , ac yno y bu ei gartref (ar wahân i rai ysbeidiau) hyd ei farw. Dywaid ef ei hun na bu mewn ysgol ond iddo ddysgu darllen wrth wylio ei dad yn torri llythrennau ar gerrig beddau . Yr oedd ei fam yn wraig alluog, a gellir casglu mai hi a fu'n ei hyfforddi yn ei ieuenctid. Dywaid mai bardd o'r enw Edward Williams o Lancarfan a ddysgodd elfennau cerdd dafod iddo, ond daeth yn fore i gysylltiad a beirdd Blaenau Morgannwg , sef Lewis Hopkin , Siôn Bradford , a Rhys Morgan . Cafodd hefyd gyfle i ddarllen llawysgrifau Cymraeg . Rhaid rhestru Thomas Richards , Llangrallo , a John Walters , Llandochau [qq.v.], ymhlith ei athrawon , a hyn sy'n egluro'r diddordeb mawr a gymerai yng ngeirfa'r iaith . Felly y dechreuodd brifio'n ysgolhaig Cymraeg . Dysgodd grefft ei dad, sef crefft y saer maen . Bu ar daith yn y Gogledd tua 1771-2 , ac yn 1773 , aeth ef a'i frodyr i Lundain . Yno cyfarfu ag Owain Myfyr ac aelodau eraill Cymdeithas y Gwyneddigion , a chafodd gyfle i fynychu cyfarfodydd y gymdeithas honno a hefyd i ddarllen llawysgrifau'r Morrisiaid . Bu'n gweithio wrth ei grefft nid yn unig yn Llundain ond hefyd yng Nghaint . Yna yn 1777 dychwelodd i Fryste , ac wedi hynny i Forgannwg . Priododd yn 1781 , ac yn 1783 ymsefydlodd yn Llandaf . Cafodd amser go helbulus, ac yn y man fe'i cawn yn ffermio tir a gawsai gan ei dad-yng-nghyfraith ym mhlwyf Tredelerch (sef Rumney , heddiw) yn ymyl Caerdydd . Nid hawdd olrhain ei gamre yn y cyfnod hwn, ond yr oedd yn y carchar yng Nghaerdydd yn 1787 . Wedi hynny, dychwelodd i Drefflemin . Aeth i Lundain yn 1791 , ac yno y bu (ond am un ysbaid byr) hyd 1795 . Dyma pryd y dechreuodd egluro athrawiaethau barddas , a chynnal gorseddau derwyddol ar Fryn y Briallu . Daeth i gysylltiad â gwyr a gydymdeimlai â'r chwyldro yn Ffrainc a hefyd ag arweinwyr yr Undodiaid . Dychwelodd i Drefflemin yn 1795 , ac yn 1796 cafodd waith o dan y Bwrdd Amaethyddiaeth i ddisgrifio cyflwr y tir a'r ffermydd ym Morgannwg a sir Gaerfyrddin . Bu'n cynorthwyo Gwallter Mechain mewn cyfnod diweddarach pan oedd y gwr hwnnw'n paratoi ei adroddiad ar gyflwr amaethyddiaeth yng Nghymru . Fe'i dewiswyd yn un o olygyddion y Myvyrian Archaiology , ac yn 1799 , bu ar daith trwy Ogledd Cymru yn casglu defnyddiau. Erbyn y cyfnod hwn yr oedd yn Undodwr , ac ef a oedd wrth y llyw pan sefydlwyd Cymdeithas y Dwyfundodiaid yn Neheubarth Cymru yn 1802 . A'i waith ef ydyw'r Rheolau a Threfniadau a gyhoeddwyd yn 1803 . Ni bu ryw lawer o gyfathrach rhyngddo a'i gyfeillion Llundeinig wedi tua 1805 . Yn nes ymlaen, cododd cenhedlaeth newydd i ymddiddori yn hanes a llenyddiaeth Cymru , gwyr y cymdeithasau taleithiol, ac edrychent hwy arno fel un o'r prif awdurdodau ar y pynciau hynny. Pan gynhaliodd Cymdeithas Dyfed eisteddfod yng Nghaerfyrddin yn 1819 , llwyddodd i wneuthur yr orsedd yn rhan hanfodol o'r gweithrediadau. Fe'i hanogwyd i gyhoeddi'r ysgrifau y mynnai iddo eu darganfod ym Morgannwg , a bu wrthi yn ei hen ddyddiau yn trefnu i argraffu Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain . Bu f. yn Nhrefflemin ar 18 Rhagfyr 1826 . Bu iddo bedwar o blant, a datblygodd y mab, Taliesin Williams [q.v.] yn ffigur amlwg ym mywyd llenyddol y cyfnod dilynol.

Ychydig iawn o'i waith a gyhoeddodd er iddo gynnwys llawer o'i ffugiadau yn Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym , 1789 , yn y Myvyrian Archaiology , 1801 , 1807 , ac yn Y Great , 1805-7 . Cyhoeddodd farwnad i'w athro , Lewis Hopkin , yn 1772 o dan y teitl, Dagrauyr Awen , a dwy gyfrol o farddoniaeth Saesneg , Poems, Lyric and Pastoral , 1794 . Cyfansoddodd lawer o emynau , a chyhoeddwyd hwy yn 1812 , 1827 , a 1834 o dan y teitl, Salmau yr Eglwys yn yr Anialwch . Cyhoeddodd rai man lyfrynnau eraill.

Yr oedd yn wr amryddawn. Cymerai ddiddordeb deallus nid yn unig yn hanes llenyddiaeth Gymraeg ond hefyd mewn pynciau megis amaethyddiaeth , garddwriaeth , pensaerniaeth , daeareg , llysieueg , gwleidyddiaeth , hanes crefydd , diwinyddiaeth , etc. Yr oedd yn fardd rhagorol, ac y mae iddo le arbennig yn hanes y canu rhamantaidd yng Nghymru . Y peth rhyfeddaf ynglyn ag ef yw ei feddwl cymhleth a throfaus, ond ofer fyddai trafod y pwnc hwnnw yma.

Wedi ei farw, rhwymodd ei fab ei bapurau'n gyfrolau. Y mae'r cyfrolau hynny yn awr yn y Llyfrgell Genedlaethol .

Ffynonellau:

  • Elijah Waring , Recollections and Anecdotes of Edward Williams, the bard of Glamorgan, or, Iolo Morganwg , Llundain, 1850 , 1850 ;
  • T. D. Thomas , Bywgraffiad Iolo Morgannwg, B.B.D., sef Edward Williams, diweddar fardd ac hynafiaethydd o Forganwg , Caerfyrddin, 1857 , 1857 ;
  • Oxford Dictionary of National Biography
  • G. J. Williams , Iolo Morganwg a Chywyddau'r Ychwanegiad , 1926
  • G. J. Williams, Y Llenor , 1922 , 1924 , 1927 , 1928
  • G. J. Williams, Iolo Morganwg , Caerdydd, 1956.

Awdur:

Athro-Emeritus Griffith John Williams, M.A., (1892-1963), Gwaelod-y-garth, Caerdydd

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54