Fe wnaethoch chi chwilio am morganwg

Canlyniadau

WILLIAMS, EDWARD ('Iolo Morganwg' 1747 - 1826) bardd a hynafiaethydd

Enw: Edward Williams
Ffugenw: Iolo Morganwg
Dyddiad geni: 1747
Dyddiad marw: 1826
Plentyn: Taliesin Williams
Rhiant: Edward Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd a hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Barddoniaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Griffith John Williams

Mab Edward Williams o bentref Pennon ym mhlwyf Llancarfan ym Morgannwg. Fe'i ganed (meddai ef ei hun) ar y ddegfed o Fawrth 1747. Symudodd ei rieni wedi hynny i bentref cyfagos Trefflemin, ac yno y bu ei gartref (ar wahân i rai ysbeidiau) hyd ei farw. Dywaid ef ei hun na bu mewn ysgol ond iddo ddysgu darllen wrth wylio ei dad yn torri llythrennau ar gerrig beddau. Yr oedd ei fam yn wraig alluog, a gellir casglu mai hi a fu'n ei hyfforddi yn ei ieuenctid. Dywaid mai bardd o'r enw Edward Williams o Lancarfan a ddysgodd elfennau cerdd dafod iddo, ond daeth yn fore i gysylltiad a beirdd Blaenau Morgannwg, sef Lewis Hopkin, Siôn Bradford, a Rhys Morgan. Cafodd hefyd gyfle i ddarllen llawysgrifau Cymraeg. Rhaid rhestru Thomas Richards, Llangrallo, a John Walters, Llandochau, ymhlith ei athrawon, a hyn sy'n egluro'r diddordeb mawr a gymerai yng ngeirfa'r iaith. Felly y dechreuodd brifio'n ysgolhaig Cymraeg. Dysgodd grefft ei dad, sef crefft y saer maen. Bu ar daith yn y Gogledd tua 1771-2, ac yn 1773, aeth ef a'i frodyr i Lundain. Yno cyfarfu ag ' Owain Myfyr ' ac aelodau eraill Cymdeithas y Gwyneddigion, a chafodd gyfle i fynychu cyfarfodydd y gymdeithas honno a hefyd i ddarllen llawysgrifau'r Morrisiaid. Bu'n gweithio wrth ei grefft nid yn unig yn Llundain ond hefyd yng Nghaint. Yna yn 1777 dychwelodd i Fryste, ac wedi hynny i Forgannwg. Priododd yn 1781, ac yn 1783 ymsefydlodd yn Llandaf. Cafodd amser go helbulus, ac yn y man fe'i cawn yn ffermio tir a gawsai gan ei dad-yng-nghyfraith ym mhlwyf Tredelerch (sef Rumney, heddiw) yn ymyl Caerdydd. Nid hawdd olrhain ei gamre yn y cyfnod hwn, ond yr oedd yn y carchar yng Nghaerdydd yn 1787. Wedi hynny, dychwelodd i Drefflemin. Aeth i Lundain yn 1791, ac yno y bu (ond am un ysbaid byr) hyd 1795. Dyma pryd y dechreuodd egluro athrawiaethau barddas, a chynnal gorseddau derwyddol ar Fryn y Briallu. Daeth i gysylltiad â gwyr a gydymdeimlai â'r chwyldro yn Ffrainc a hefyd ag arweinwyr yr Undodiaid. Dychwelodd i Drefflemin yn 1795, ac yn 1796 cafodd waith o dan y Bwrdd Amaethyddiaeth i ddisgrifio cyflwr y tir a'r ffermydd ym Morgannwg a Sir Gaerfyrddin. Bu'n cynorthwyo ' Gwallter Mechain ' mewn cyfnod diweddarach pan oedd y gwr hwnnw'n paratoi ei adroddiad ar gyflwr amaethyddiaeth yng Nghymru. Fe'i dewiswyd yn un o olygyddion The Myvyrian Archaiology of Wales , ac yn 1799, bu ar daith trwy Ogledd Cymru yn casglu defnyddiau. Erbyn y cyfnod hwn yr oedd yn Undodwr, ac ef a oedd wrth y llyw pan sefydlwyd Cymdeithas y Dwyfundodiaid yn Neheubarth Cymru yn 1802. A'i waith ef ydyw'r Rheolau a Threfniadau a gyhoeddwyd yn 1803. Ni bu ryw lawer o gyfathrach rhyngddo a'i gyfeillion Llundeinig wedi tua 1805. Yn nes ymlaen, cododd cenhedlaeth newydd i ymddiddori yn hanes a llenyddiaeth Cymru, gwyr y cymdeithasau taleithiol, ac edrychent hwy arno fel un o'r prif awdurdodau ar y pynciau hynny. Pan gynhaliodd Cymdeithas Dyfed eisteddfod yng Nghaerfyrddin yn 1819, llwyddodd i wneuthur yr orsedd yn rhan hanfodol o'r gweithrediadau. Fe'i hanogwyd i gyhoeddi'r ysgrifau y mynnai iddo eu darganfod ym Morgannwg, a bu wrthi yn ei hen ddyddiau yn trefnu i argraffu Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain . Bu farw yn Nhrefflemin ar 18 Rhagfyr 1826. Bu iddo bedwar o blant, a datblygodd y mab, Taliesin Williams yn ffigur amlwg ym mywyd llenyddol y cyfnod dilynol.

Ychydig iawn o'i waith a gyhoeddodd er iddo gynnwys llawer o'i ffugiadau yn Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym, 1789, yn The Myvyrian Archaiology of Wales , 1801, 1807, ac yn Y Greal, 1805-7. Cyhoeddodd farwnad i'w athro, Lewis Hopkin, yn 1772 o dan y teitl, Dagrauyr Awen, a dwy gyfrol o farddoniaeth Saesneg, Poems, Lyric and Pastoral, 1794. Cyfansoddodd lawer o emynau, a chyhoeddwyd hwy yn 1812, 1827, a 1834 o dan y teitl, Salmau yr Eglwys yn yr Anialwch. Cyhoeddodd rai man lyfrynnau eraill.

Yr oedd yn wr amryddawn. Cymerai ddiddordeb deallus nid yn unig yn hanes llenyddiaeth Gymraeg ond hefyd mewn pynciau megis amaethyddiaeth, garddwriaeth, pensaerniaeth, daeareg, llysieueg, gwleidyddiaeth, hanes crefydd, diwinyddiaeth, etc. Yr oedd yn fardd rhagorol, ac y mae iddo le arbennig yn hanes y canu rhamantaidd yng Nghymru. Y peth rhyfeddaf ynglyn ag ef yw ei feddwl cymhleth a throfaus, ond ofer fyddai trafod y pwnc hwnnw yma.

Wedi ei farw, rhwymodd ei fab ei bapurau'n gyfrolau. Y mae'r cyfrolau hynny yn awr yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Canlyniadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.