WILLIAMS, EVAN (1724 - 1758), Morafiad Cymreig

Enw: Evan Williams
Dyddiad geni: 1724
Dyddiad marw: 1758
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Morafiad Cymreig
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd ym Meirion, 27 Mawrth 1724; teiliwr. Aeth i Lundain yn 16, ac oddi yno i Hwlffordd. Erbyn 1748 yr oedd ym Mryste, yn aelod o'r seiat Forafaidd a gychwynnwyd yno yn y flwyddyn honno - ac o'r gynulleidfa gorfforwyd yn 1755. Darllenai lawer, dysgai ieithoedd, a gwnaeth gyfieithiad Cymraeg o rai o bregethau Zinzendorff; golygwyd a chyhoeddwyd hwn, ar ôl ei farw, gan John Gambold - Un Ymadrodd ar Bumtheg ynghylch Iesu Grist, 1760. Yn Ebrill 1758, anfonwyd ef i Dderwen Deg (gerllaw Rhuthyn) i agor cenhadaeth Forafaidd yng Ngogledd Cymru; ond bu farw yno, 2 Mai 1758, a chladdwyd yn Llanfair Dyffryn Clwyd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.