Cymysglyd iawn yw'r adroddiad o ddisgynyddion Syr David Williams a roddir inni gan Theophilus Jones (op. cit., iii, 82-3), gan Burke (Extinct Baronetcies, 568), a chan Jane Williams yn ei hysgrif ar y Clas-ar-Wy (Arch. Camb., 1870, 308-9) — e.e. cymysgwyd dwy genhedlaeth, fel y dangosodd R. W. Banks (Arch. Camb., 1879, 153 — neu ar iii 91-2 o'r 3ydd arg. o Theophilus Jones). Dilynwyd Syr David gan ei fab Syr HENRY WILLIAMS, a fu f. 1636. Tebyg mai hwn (ac nid ei fab, fel y dywed y rhestr o aelodau seneddol ar ddiwedd Hist. Brecknock) oedd yr aelod seneddol dros dref Aberhonddu, 1601-4; urddwyd ef yn farchog yn 1603 ac yr oedd yn aelod o Gyngor y goror yn 1617; gellid meddwl drachefn mai efe oedd yr aelod seneddol dros Frycheiniog o 1620 hyd 1628. Ar y llaw arall, gan y gelwir aelod seneddol Brycheiniog yn 1628-9 yn ‘Henry Williams, Ysw.’, odid nad ei fab oedd hwnnw — Syr HENRY WILLIAMS (a fu f. 1652), a urddwyd yn farwnig yn 1644, ac a groesawodd Siarl I i Wernyfed ar ei ymweliad â Chymru ar ôl brwydr Naseby (1645). Gan na eilw neb o ddisgynyddion gwrywol hwn am sylw, nid rhaid yma ymboeni i ddatrys yr achau; myn Burke i'r farwnigiaeth barhau hyd 1798, ond dyfynna Banks dystiolaeth gyfoes ei bod hi wedi darfod cyn 1727, ac y mae hynny'n llawer haws ei gredu, oblegid bu dau frawd o'r teulu farw heb feibion, a chyda'r aeres, ELIZABETH WILLIAMS, aeth Gwernyfed drwy briodas i linach newydd o Williamsiaid.
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.