WILLIAMS, Syr CHARLES HANBURY (1708 - 1759), ysgrifennwr dychangerddi a llysgennad

Enw: Charles Hanbury Williams
Dyddiad geni: 1708
Dyddiad marw: 1759
Priod: Frances Williams (née Coningsby)
Rhiant: Bridget Hanbury (née Ayscough)
Rhiant: John Hanbury
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgrifennwr dychangerddi a llysgennad
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: David Williams

Ganwyd 8 Rhagfyr 1708, pedwerydd mab y milwriad Major John Hanbury, Pont-y-pŵl. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Eton. Yr oedd yn fab-bedydd i Charles Williams, Caerlleon-ar-Wysg; etifeddodd ganddo ef stad Coldbrook a thiroedd eraill, a swm mawr o arian; a mabwysiadodd y cyfenw ychwanegol Williams. Priododd 1 Gorffennaf 1732 â Frances, merch iarll Coningsbury. Ysgrifennodd Charles Hanbury Williams lawer o farddoniaeth yn llawn o watwareg; dywedai Horace Walpole ei fod ef yn credu mai Hanbury Williams oedd bardd mwyaf y genhedlaeth honno. Yn 1746 dechreuodd ar y gyfres o deithiau llysgenhadol y cofir ef yn bennaf o'u plegid. Dechreuodd ei feddwl ddrysu yn 1759 a bu farw 2 Tachwedd y flwyddyn honno, o bosibl trwy ei weithred ef ei hun; claddwyd ef yn abaty Westminster. Ar hynny aeth stad Coldbrook i'w frawd George Hanbury a fabwysiadodd, yntau hefyd, y cyfenw Williams.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.