WILLIAMS, HENRY (1624 - 1684), pregethwr Piwritanaidd, amlwg fel Bedyddiwr rhyddgymunol yn Sir Drefaldwyn.

Enw: Henry Williams
Dyddiad geni: 1624
Dyddiad marw: 1684
Plentyn: Rosamond Davis (née Williams)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pregethwr Piwritanaidd, amlwg fel Bedyddiwr rhyddgymunol
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Richards

Ei gartref oedd Ysgafell ym mhlwyf Llanllwchaiarn. Disgybl i Vavasor Powell ydoedd, a chafodd gyfle i arfer ei ddoniau fel pregethwr teithiol o dan Ddeddf y Taeniad, yn Nhrefaldwyn Isaf a chyrion Maesyfed; gwelir ei enw, yng nghwmni amryw o bregethwyr eraill, yn amdiffyn Powell yn yr Examen et Purgamen, 1654; a safodd yn gefn i Powell fel un o arwyddwyr y Word for God yn erbyn Diffynwriaeth Cromwell - hyn yn 1655. Pan ddaeth yr Adferiad yn 1660 nid oedd fawr obaith iddo rhag cael ei daflu i garchar. Trwm oedd ei benyd o dan ddeddfau Clarendon; dywedir gan ysbiwyr 1669 ei fod yn cadw cyrddau dirgel yn ei dŷ ei hun, ac yn brif bregethwr ynddynt; adroddir am greulonderau direswm ato ef, a'i dad, a'i wraig, a choronir yr adroddiadau gan gyfeirio at ryfeddodau lled wyrthiol ' Cae'r Fendith ' (mynnodd Joshua Thomas gael golwg ar y cae yn 1745; dyry'r Dr. William Richards le amlwg i'r hanes yn ei Cambro British Biography, a David Davies le amlycach a mwy barddonol fyth yn ei gyfrol ar Vavasor Powell). Dywed Henry Maurice yn 1675 mai ar Henry Williams y syrthiodd mantell Vavasor) yn Nhrefaldwyn, a dywed hefyd fod y pregethwr, fel yn nyddiau'r Taeniad, yn croesi'r ffin i Faesyfed i weini ar reidiau'r saint yn y sir honno. Gŵr diwyd, diabsen, tangnefeddus ydoedd, ac aiff Calamy (drwy gymorth James Owen), allan o'i ffordd i dalu teyrnged i'w waith a'i aberth. Claddwyd ef yn Llanllwchaiarn, 2 Ebrill 1684. Ysgrifennwyd galargan go hir amdano gan Richard Davis, gweinidog enwog Rothwell yn swydd Northampton, a oedd yn briod â'i ferch Rosamond; a disgynnydd go bell i Henry Williams oedd Jane Williams, yr hanesydd, a'i cyfenwai ei hun ' Ysgafell.”

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.