WILLIAMS, ROBERT HERBERT ('Corfanydd '; 1805 - 1876), cerddor

Enw: Robert Herbert Williams
Ffugenw: Corfanydd
Dyddiad geni: 1805
Dyddiad marw: 1876
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd ym mhlwyf Bangor, Sir Gaernarfon. Symudodd y teulu i fyw i Lerpwl pan oedd ef yn fachgen. Dygwyd ef i fyny yn ddilledydd, a chadwai siop yn Basnett Street ar gongl Williamson Square, Lerpwl. Adwaenir ' Corfanydd ' fel cerddor oddi wrth ei dôn ' Dymuniad,' M.S. Dywed iddo ei chyfansoddi ar ei ffordd adref o'i waith, yn 1822; canwyd hi gyntaf dan arweiniad William Evans yng nghapel y Tabernacl, a daeth yn boblogaidd. Ymddangosodd y dôn gyntaf yn Y Drysorfa, Ionawr 1835, dan yr enw ' Deisyfiad ' gydag 'R.W. Liverpool,' ac wedi hynny yn Casgliad o Donau (J. Ambrose Lloyd), 1843. Darfu i eraill geisio ei hawduriaeth, ond yn Y Cerddor Cymreig 1866 a 1868 cafwyd tystiolaeth ' Ieuan Gwyllt,' J. Ambrose Lloyd, y Parch. William Ambrose, a William Evans, mai ' Corfanydd ' oedd ei hawdur. Cyfansoddodd amryw donau, a chyhoeddodd gasgliad bychan o donau dan yr enw Alawydd Trefriw yn 1848. Symudodd o Lerpwl i Drogheda, Iwerddon, am rai blynyddoedd, ond daeth yn ôl, ac oherwydd afiechyd ymneilltuodd i fyw i'r Corfandy, Porthaethwy, ac yno y bu farw 20 Tachwedd 1876; claddwyd ym mynwent Llantysilio.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.