WILLIAMS, HUGH ('Hywel Cernyw '; 1843 - 1937), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, llenor, a bardd

Enw: Hugh Williams
Ffugenw: Hywel Cernyw
Dyddiad geni: 1843
Dyddiad marw: 1937
Rhiant: Mary Williams
Rhiant: Moses Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr, llenor, a bardd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: David Tudwal Evans

Ganwyd 13 Ebrill 1843 yn y Pentre, Llangernyw, mab Moses a Mary Williams. Dechreuodd gymryd diddordeb mewn llenyddiaeth yn ieuanc. Ceir penillion ac englynion o'i eiddo yn Yr Athraw am 1860, pan nad oedd ond 17 mlwydd oed. Derbyniwyd ef i Goleg y Bedyddwyr. yn Llangollen, Ionawr 1863. Ordeiniwyd ef i'r weinidogaeth yn Staylittle a Dylife, Rhagfyr 1865. Yn 1868 symudodd i gymryd gofal eglwysi'r Bedyddwyr yng Nghynwyd, Corwen, a Charrog. Rhoddodd ofal yr eglwys yng Ngharrog i fyny yn 1879 gan gyfyngu ei weinidogaeth i'r ddwy flaenaf hyd 1918, pryd yr ymddeolodd o'r weinidogaeth feunyddiol. Pregethai yn aml wedi hynny yn eglwysi'r cylch. Am rai blynyddoedd gwasnaethodd fel athro yng Ngholeg y Bedyddwyr yn Llangollen. Bu'n llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru a Mynwy, 1892-3. Yn 1932 anrhydeddwyd ef gan Brifysgol Cymru â'r radd o D.D. Cyfansoddodd lawer o emynau. Am dymor bu'n golygu Seren Gomer, y Greal, a'r Athraw. Ymhlith y cyfrolau a gyhoeddodd y mae Bannau Ffydd, 1900, Yr Arweinydd Dwyfol, Cofiant Dr. Hugh Jones, 1884, Nodiadau ar Epistolau Ioan a Judas, 1874, Esboniad ar yr Efengyl yn ol Ioan, 1899-1900 (dwy gyfrol cydrhyngddo ef a'r Dr. Owen Davies, Caernarfon), Christ the Centre, 1902 (cyfrol o bregethau Saesneg). Cyhoeddodd hefyd nifer o bamffledau llai. Bu farw 3 Mai 1937, a chladdwyd ef ym mynwent Corwen.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.