WILLIAMS, WILLIAM HUGH ('Arafon'; 1848 - 1917), arweinydd llafur

Enw: William Hugh Williams
Ffugenw: Arafon
Dyddiad geni: 1848
Dyddiad marw: 1917
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arweinydd llafur
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: David Thomas

Ganwyd 8 Awst 1848 ym Mynydd Llandygai, Sir Gaernarfon - ei fam yn chwaer i William Owen, Prysgol. Efe oedd arweinydd chwarelwyr y Penrhyn, Sir Gaernarfon, yn streic 1896 a'u cyfarwyddwr answyddogol yn streic fawr 1900-03. Bu'n ysgrifennydd ariannol Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru. Yr oedd yn ŵr diwylliedig ac yn arweinydd doeth. Bu farw ym Mynydd Llandygai 24 Tachwedd 1917.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.