WILLIAMS, JAMES (1812 - 1893), cenhadwr yn Llydaw dan y Methodistiaid Calfinaidd

Enw: James Williams
Dyddiad geni: 1812
Dyddiad marw: 1893
Priod: Catherine Williams (née Jones)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cenhadwr yn Llydaw dan y Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Nhalacharn 5 Tachwedd 1812; gof wrth ei grefft. Ymunodd â'r Methodistiaid Calfinaidd dan weinidogaeth (y Dr.) Lewis Edwards yno; dechreuodd bregethu tua 1835, ac aeth i athrofa newydd y Bala yn 1837 - cerddodd bob cam o Dalacharn i'r Bala. Yn 1842 anfonwyd ef i Lydaw i gychwyn cenhadaeth; ymddeolodd yn 1862, ond ailymwelodd â Llydaw yn 1877 a 1882; am fanylion ei anawsterau a'i waith yno, gweler llyfr J. H. Morris a enwir isod. Bwriodd ei fywyd ar ôl 1869 yng Nghaer, lle y bu farw 1 Medi 1893; claddwyd ym medd ei wraig (Catherine, ferch y Parch. Richard Jones, 1784 - 1840, o'r Bala), ym mynwent Llanycil.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.