WILLIAMS, JANE ('Ysgafell'; 1806 - 1885), awdur llyfr Saesneg ar hanes Cymru ac amryw lyfrau eraill

Enw: Jane Williams
Ffugenw: Ysgafell
Dyddiad geni: 1806
Dyddiad marw: 1885
Rhiant: Eleanor Williams (née Marsh)
Rhiant: David Williams
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: awdur llyfr Saesneg ar hanes Cymru ac amryw lyfrau eraill
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Brinley Rees

Yr oedd yn ferch i David ac Eleanor Williams o Riley Street, Chelsea, lle y ganwyd hi, 1 Chwefror 1806. Yr oedd ei thad, a weithiai yn swyddfa'r Llynges, yn llinach Henry Williams (1624?-1684), Ysgafell. Gan waeled ei hiechyd treuliodd Jane hanner cyntaf ei hoes yn y Neuadd Felen ger Talgarth, sir Frycheiniog, lle y dysgodd Gymraeg a dechrau ymddiddori yn llenyddiaeth Cymru. Daeth i adnabod arglwyddes Llanofer, a thrwyddi hi eraill a oedd yn ymhel â llenyddiaeth. O 1856 ymlaen ymgartrefai yn Llundain. Bu farw yn Chelsea ar 15 Mawrth 1885; claddwyd hi ym mynwent Brompton.

Yn breifat yr argraffwyd ei Miscellaneous Poems, 1824, ond yn ddiweddarach cyhoeddwyd Twenty Essays on the Practical Improvement of God's Providential Dispensations as Means to the Moral Discipline to the Christian (London, 1838); Artegall; or Remarks on the Reports of the Commissioners of Inquiry into the State of Education in Wales (Llandovery a Llundain, 1848), llyfryn dienw'n trafod cymwysterau'r tystion ac yn dyfynnu'r adroddiadau i wrthbrofi cyhuddiadau'r comisiynwyr; The Literary Remains of the Rev. Thomas Price, Carnhuanawc … with a Memoir of his Life (Llandovery, 1854-5); The Origin, Rise and Progress of The Paper People (London, 1856), llyfryn ar un o ddifyrion mebyd gyda darluniau o waith arglwyddes Llanofer; The Autobiography of Elizabeth Davis, a Balaclava Nurse, Daughter of Dafydd Cadwaladr (London, 1857); The Literary Women of England (London, 1861), llyfr sylweddol; Celtic Fables, Fairy Tales and Legends (London, 1862), adargraffiad o chwedlau ar gân a ymddangosasai yn Ainsworth Magazine, 1849-50; A History of Wales derived from Authentic Sources (London, 1869), ffrwyth ymchwil i hanes Cymru hyd ddiwedd cyfnod y Tuduriaid, a'r llyfr gorau ar y pwnc yn Saesneg cyn cyhoeddi gwaith Syr John Lloyd. Ymddangosodd 'A History of the Parish of Glasbury' o'i gwaith hi yn yr Archæologia Cambrensis, 1870. Yn 1843 cyfieithodd o'r Ffrangeg draethawd Carl Meyer ar ieitheg gymharol yr ieithoedd Celtaidd ac fe'i cyhoeddwyd yn y Cambrian Journal, 1854. Cydnebydd Brinley Richard yn ei ragair i'w Songs of Wales iddi fod o gynhorthwy iddo.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.