WILLIAMS, JOHN (fl. 1739-79, cynghorwr Methodistaidd ac emynydd

Enw: John Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cynghorwr Methodistaidd ac emynydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Sonia Howel Harris am 'dear Jack of Errwd ' yn 1739; trigai teulu o'r cyfenw yn Erwd, plwyf Cerrig Cadarn, sir Frycheiniog. Yr oedd ef a William, ei frawd, yn gynghorwyr yn 1742-3, a chynhelid seiat Fethodistaidd yn eu cartref. Priododd William (bu farw 1746) ag Anne Bowen o'r Tyddyn. Priododd Sarah, ei chwaer, â Thomas James y cynghorwr o Lanfair-ym-Muellt. Gwasnaethai Howel Harris dad bedydd i blentyn John Williams yn 1748. Trwy ddylanwad Thomas James cefnodd teulu Erwd ar blaid Harris yn 1750, a cheir hwy ymhlith plaid annibynnol Thomas Bowen yn 1751. Credir mai ef yw awdur y casgliad bychan o emynau a gyhoeddwyd yn Aberhonddu yn 1779, Ychydig Hymnau: O waith John Williams, o Sir Frecheiniog. Pedwar emyn digon tila sydd yn y casgliad. Claddwyd gŵr o'r enw yng Ngherrig Cadarn 28 Gorffennaf 1779, ac un arall 22 Rhagfyr 1783. Cyhoeddwyd casgliad o'i emynau, Hymnau o Fawl i Dduw a'r Oen, etc., gan Wasg Trefeca yn 1805.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.